Gat mochyn ar lwybr cyhoeddus (Oliver White CCA2.0)
Mae un o undebau amaethyddol Cymru wedi mynegi pryder am gynllun i roi mwy o hawliau i bobol grwydro cefn gwlad.

Yn ôl NFU Cymru, ffermwyr sy’n debyg o ddiodde’ os yw’r cynigion newydd gan yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig yn cael eu derbyn.

Fe fyddai rhagor o fynediad i gefn gwlad yn cynyddu’r cyfrifoldebau ar amaethwyr, meddai Hedd Pugh, Cadeirydd Materion Gwledig NFU Cymru.

Y cynigion

Ddydd Llun fe gyhoeddodd Llywodraeth eu bod am wella’r cyfleoedd i bobol fwynhau’r awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Yn ôl yr Ysgrifennydd  Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mae angen symleiddio’r modd o gofnodi mynediad i’r cyhoedd, sicrhau cysondeb i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwella fforymau cynghori ar hawliau y cyhoedd.

Ond mae hyn wedi codi pryderon ymysg ffermwyr gydag NFU Cymru yn dweud na ddylai’r newidiadau fod ar draul costau a beichiau ffermwyr a’r gymuned wledig.

‘Dim tystiolaeth’

Roedd yr undeb yn cydnabod fod mynediad i gefn gwlad yn bwysig i wella iechyd y cyhoedd, yn ôl Hedd Pugh, ond nid cynyddu’r hawl i grwydro oedd yr ateb.

“Yn wir, mae tystiolaeth yn dangos, er gwaethaf cynnydd cymaint â theirgwaith mewn mynediad i dir ers datganoli, does dim newid wedi bod yn y nifer o ddefnyddwyr,” meddai.

Dywedodd y dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar foderneiddio’r llwybrau a’r hawliau presennol a’I gwneud yn llai costus i gynnal y drefn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar y mater gyda 5,800 o ymatebion, a dywedodd Lesley Griffith ei bod am ymgynghori ymhellach ynglŷn â sut i ddatblygu’r cyfreithiau presennol.

  • Mae gan Gymru 16,000 milltir o lwybrau cyhoeddus, 3,000 milltir o lwybrau ceffylau, 1,200 milltir o rwydwaith seiclo a 460,000 hectar o dir agored lle mae rhyddid i grwydro.