Eryri
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi lansio apêl er mwyn codi arian i drwsio llwybrau a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt yn Eryri.

Dywed y corff cadwraeth sydd yn gofalu am 23,500 hectar o’r parc cenedlaethol, bod graddfa erydiad y llwybrau a’r cynnydd yn nifer y cerddwyr yn golygu bod angen dechrau ar drwsio’r llwybrau yn fuan.

Mae nifer y bobol sydd yn ymweld â’r Wyddfa wedi dyblu ers 2007 i 450,000 ac felly mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn anelu i godi £250,000.

Gyda phob metr o lwybrau’r ymddiriedolaeth yn costio £180, mi fydd yr arian caiff ei godi yn cyfrannu at drwsio dwy filltir a hanner o lwybrau yn Eryri.

Bydd yr arian hefyd yn cyfrannu tuag at amddiffyn bywyd gwyllt prin sydd yn unigryw i Barc Cenedlaethol Eryri, fel chwilen Eryri.

Nifer wedi dyblu

“Mae mwy o bobol yn dod i fwynhau golygfeydd ac i gerdded ar hyd llwybrau Eryri pob blwyddyn. Ar y Wyddfa ry’ ni di gweld y nifer o gerddwyr yn dyblu,” meddai Ceidwad yr Ymddiriedolaeth, Rhys Thomas.

“Mae trwsio llwybrau yn waith caled sy’n cymryd llawer o amser ond mae’n hanfodol er mwyn diogelu cynefinoedd ucheldiroedd Eryri. Heb lwybrau mae planhigion yn tyfu sydd yn lladd planhigion gwannach eraill.”

Cefnogaeth Seren

Mae’r actor Hollywood Matthew Rhys wedi cefnogi’r ymgyrch: “O fod wedi gweld yr holl bleser mae rhyfeddodau’r Parc yn rhoi i bobol, dw i am weld y gwaith cynnal a chadw yn cael ei chwblhau fel bod pobol sy’n frwdfrydig am natur fel finnau yn medru mwynhau Eryri am genedlaethau i ddod.”

Gellir cyfrannu at yr apel drwy fynd at: www.nationaltrust.org.uk/snowdonia-appeal