Cyw iâr (Llun: PA)
Mae undebau amaeth y Deyrnas Unedig wedi galw ar swyddogion Ewropeaidd i amddiffyn statws cynnyrch maes os bydd y gwaharddiad ar ddofednod yn parhau.
Bydd arweinwyr undebau yn cwrdd ag aelodau senedd Ewrop a swyddogion yr Undeb Ewropeaidd er mwyn ymestyn y cyfnod gall dofednod fod dan do a pharhau i gael eu galw yn ‘gywion rhydd’ neu ‘syth o’r nyth’.
Yn ôl rheolau statws bwyd mae modd galw cynnyrch yn gynnyrch maes cyn belled â bod y dofednod ddim ond wedi bod dan do dan orchymyn gorfodol am lai na 12 wythnos.
Mae’r gwaharddiad presennol er mwyn atal lledaeniad ffliw adar yn golygu bod yn rhaid i ffermwyr gadw eu dofednod dan do, a gall estyniad i’r cyfnod gwaharddiad effeithio statws cynnyrch nifer o ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Cafodd y parth atal ffliw adar ei sefydlu ar Ragfyr 6 a bydd yn parhau hyd at Chwefror 28.
“Angen sicrwydd”
“Mae ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop angen yr estyniad fel bod sicrwydd y bydd marchnad i’w cynnyrch,” meddai llywyddion Undebau Llafur y Deyrnas Unedig.
“Bydd marchnad y Deyrnas Unedig heb os nac oni bai yn cael ei heffeithio yn fwy nag nifer o wledydd gan fod hanner o ddofednod Prydeinig yn ddofednod maes.”
Mae wyth achos o’r haint H5N8 wedi eu cofnodi yn y Deyrnas Unedig o fewn dofednod domestig gydag achosion yn Sir Gaerfyrddin a Gogledd Swydd Efrog.