Llun: Cymdeithas Eryri
Mae mudiad yn Eryri wedi codi £3,500 mewn ychydig fisoedd at brosiectau cynnal a chadw wrth alw am gyfraniadau gan ymwelwyr a busnesau.

Cafodd ‘Rhodd Eryri’ ei lansio ym mis Gorffennaf 2016 a bwriad y cynllun yw codi arian at waith cadwraeth i ymateb i’r nifer cynyddol o ymwelwyr sy’n ymweld ac yn effeithio ar amgylchedd yr ardal.

Mae tua 600,000 o ymwelwyr yn ymweld â’r Wyddfa bob blwyddyn, ffigwr sydd wedi dyblu ers 2007 ac sy’n fwy na ffigurau Ben Nevis, Scafell Pike a Mont Blanc.

Mae’r cynllun, ‘Rhodd Eryri’, yn codi arian drwy ychwanegu swm o tua £1 at gostau llety, pryd o fwyd neu weithgaredd, ac mae 28 o fusnesau wedi ymrwymo i’r prosiect hyd yn hyn.

Mae’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi i brosiectau lleol, fel cyrsiau achrededig a sgiliau cadwraeth i bobl ifanc.

‘Diogelu hanes a threftadaeth’

“Mae dysgu sgiliau traddodiadol, fel adeiladu waliau cerrig sych, yn hanfodol ar gyfer diogelu hanes a threftadaeth yr ardal i’r dyfodol,” meddai John Harold o Gymdeithas Eryri.

Wrth esbonio’r cynllun dywedodd Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig: “bu cynllun tebyg yn rhedeg yn Ardal y Llynnoedd ers 20 mlynedd ac mae’n codi dros £100,000 bob blwyddyn.

“Ein gobaith yw bydd Rhodd Eryri yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf i fod yr un mor llwyddiannus.

“Os byddai gennym 50 o fusnesau yn rhan o’r cynllun, rhagdybiwn byddai modd codi £22,000 y flwyddyn!”