Pen y Fan
Mae gyrwyr wedi cael rhybudd i fod yn ofalus wrth barcio ym Mannau Brycheiniog dros y penwythnos.

Ddwy flynedd yn ôl, fe achosodd cerbydau gryn oedi yn Storey Arms wrth i’r gwasanaethau brys geisio cyrraedd safle gwrthdrawiad, gan arwain at werth £6,000 o ddirwyon.

Daw’r rhybudd gan Heddlu Dyfed-Powys ar benwythnos ras Pen y Fan ger yr A470, ac fe allai’r ardal gael ei heffeithio gan dywydd garw dros y dyddiau nesaf.