Twrci
Mae gwaharddiad dros dro wedi’u cyflwyno ar draws Cymru a gweddill Prydain ar ddigwyddiadau fel ffeiriau, sioeau ac arwerthiannau adar byw.

Daw hyn yn dilyn achos diweddar o ffliw adar pathogenig, H5N8, sydd wedi cylchredeg ar draws Ewrop ac wedi’i ganfod ar fferm tyrcwn yn Swydd Lincoln ar Ragfyr 16.

Bu’n rhaid difa 2,500 o adar ar y fferm honno, ac mae gwaharddiadau llym yn parhau o gwmpas y safle.

Mae’r gwaharddiadau wedi’u hymestyn bellach i ddigwyddiadau ar draws Prydain lle mae risg i ieir, tyrcwn, hwyaid a gwyddau.

‘Diogelu’r adar’

“Rwy’n pwyso ar geidwaid dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi manylion eu heidiau i’r Gofrestr Dofednod,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

“Drwy wneud, byddwn yn gallu cysylltu â nhw ar unwaith pe bai’r clefyd yn taro er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau angenrheidiol yn syth i ddiogelu’u hadar.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “mae bioddiogelwch yn fater na ddylem gyfaddawdu arno byth.  Hyd yn oed os ydy’r adar dan do, mae’r perygl o’u heintio’n dal yn fyw a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill wneud popeth yn eu gallu i’w rhwystro rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt.

“Peidiwch â symud eich adar os medrwch a dylech wastad diheintio’ch dillad a’ch offer,” meddai wedyn.