Afon Teifi
Mae o leiaf 1,000 o bysgod wedi marw yn sgil llygredd yn afon Teifi yng Ngheredigion.

Eog a brithyll môr sydd wedi’u heffeithio’n bennaf, ac mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i archwilio’r achos.

Mae lle i gredu bod y llygredd yn tarddu o ardal amaethyddol ger Tregaron.

Cafodd yr adroddiadau cyntaf fod yr afon wedi newid ei lliw eu cofnodi ddydd Sadwrn (Rhagfyr 17), ac mae mesurau rheoli llygredd mewn grym i leihau’r effaith ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt.

Pysgod marw ‘yn cynyddu’

Yn ôl Gavin Brown, Rheolwr De Orllewin Cyfoeth Naturiol Cymru: “mae ein hafonydd yn gartref i rywogaethau cyfoethog, amrywiol a gwerthfawr o blanhigion ac anifeiliaid ac felly mae’n bwysig i ddelio â llygredd cyn gynted ag y bo modd.

“Mae achos y llygredd ar afon Teifi ger Tregaron wedi cael effaith sylweddol ar ran hir o’r afon,” meddai.

“Wrth i’n swyddogion barhau i asesu effaith llawn ar yr afon, mae nifer y pysgod marw yn cynyddu.”

‘Dinistriol’

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Pysgota Tregaron wrth golwg360 fod y newyddion yn “ddinistriol.”

Esboniodd fod cyfarfod cyhoeddus wedi’i gynnal yn y dref neithiwr, lle cawsant wybod y gallai gymryd blynyddoedd i adfer yr afon.

“Yn amlwg, mae hyn yn ddinistriol, ac mae pysgota’n cyfrannu’n fawr i’r ardal.”