Mae cyfarfod arbennig o Gyngor Môn yn cael ei gynnal prynhawn yma wrth i’r cynghorwyr gwrdd i gytuno ar eu hymateb i gynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau ar draws yr ynys.

Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Gwener, Rhagfyr 16, a bwriad y Grid Cenedlaethol ydy codi ail res o beilonau i gysylltu Wylfa Newydd â’r orsaf drydan Pentir yng Ngwynedd.

Mae Cynghorwyr a nifer o drigolion lleol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, ac mewn llythyr at y Grid Cenedlaethol mae Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dr Gwynne Jones, wedi mynegi mai’r “unig ddewis derbyniol arall yw tanddaearu’r cysylltiad arfaethedig yn gyfan gwbl rhwng Wylfa a Phentir.”

‘Pryderon difrifol’

“Mae’r Cyngor yn ategu’r safbwyntiau cryf a fynegwyd yn eang gan drigolion Ynys Môn,” meddai Dr Gwynne Jones yn ei lythyr.

“Byddai ail linell uwch ben yn gyfochrog â’r llinell bresennol, neu’n agos ati, yn arwain at effeithiau sylweddol ar dirwedd yr Ynys, ac mae hynny’n codi pryderon difrifol,”  meddai.

“Mae’r tirlun yn allweddol i dwristiaeth, sy’n ‘asgwrn cefn’ economi Ynys Môn, ac i lesiant trigolion, busnesau a chymunedau yn y dyfodol.

“Mae’r Cyngor yn credu bod yr effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol fyddai’n deillio o linell uwch ben ychwanegol, a’i heffeithiau cronnol, yn cyfiawnhau cost ychwanegol cysylltiad tanddaearol.

“Mae’r Cyngor yn bryderus mai’r gost fu’r prif ffactor wrth i’r Grid Cenedlaethol benderfynu ar y cynnig presennol, a hynny ar draul rhoi ystyriaeth briodol i bwysigrwydd y ffactorau eraill,” meddai wedyn.

Ymgynghoriad

Fe fydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener, a gobaith y Grid Cenedlaethol  ydy cyflwyno cais i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn mis Hydref 2017.

“Rydym yn sylweddoli bod gan rai pobl bryderon am ein cynlluniau a dyma’ch cyfle i gyflwyno’ch ymateb.  Os credwch fod ffyrdd y gallwn newid y cynlluniau i leihau’r effeithiau, dywedwch sut, ac yn bwysig, dywedwch pam,” meddai Gareth Williams, Uwch Reolwr y Prosiect ar ran y Grid Cenedlaethol.