Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Amgychedd a Materion Gwledig
Mae ffenestr daliadau’r Cynllun Taliad Sylfaenol yn agor heddiw (Rhagfyr 1) ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd bron i 90% o ffermwyr Cymru yn derbyn eu cymorthdaliadau yn ystod y dydd.

Ar ei hymweliad â’r Ffair Aeaf ddechrau’r wythnos, dywedodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y byddai £173 miliwn yn cael ei dalu i gyfrifon banc 13,176 o ffermwyr Cymru ar ddiwrnod cynta’r ffenestr dalu.

Esboniodd fod prydlondeb y broses yn deillio o ddatblygiadau ar-lein y system geisiadau.

“Mae’r perfformiad rhagorol hwn wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein bod bellach yn prosesu ceisiadau ar-lein, sydd wedi lleihau biwrocratiaeth, ac wedi  caniatáu i geisiadau gael eu prosesu yn gyflym ac yn effeithiol,” meddai Lesley Griffiths.

“Ni yw’r unig wlad sy’n cynnig dull digidol cyflawn o brosesu’r ceisiadau hyn.”

Beth fydd yn digwydd ar ôl 2020?

Mae ffrae wedi codi’r wythnos hon hefyd ynglŷn â phwy ddylai gynllunio a gweithredu cynllun cyfatebol unwaith y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, mae’r Trysorlys wedi cadarnhau y bydd y cynllun yn cael ei ariannu tan 2020, ond does dim sicrwydd beth fydd yn digwydd wedi hynny.

Yn ôl Andrew RT Davies, Llywodraeth Prydain ddylai gymryd y cyfrifoldeb o lunio cynllun cyfatebol i’r Polisi Amaeth Cyffredin wrth iddo honni fod gan ffermwyr Cymru “fwy o hyder” ynddyn nhw na Llywodraeth Cymru.

Ond anghytuno’r oedd Simon Thomas, AC Plaid Cymru a llefarydd ar faterion gwledig, wrth iddo gyhuddo arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig o geisio “canoli pwerau yn San Steffan”.

Mewn ymateb dywedodd Lesley Griffiths ei bod wedi ymgynghori â ffermwyr a chynrychiolwyr o’r economi wledig ac wedi gweld parodrwydd “i ddatblygu polisïau amaeth unigryw i Gymru, yn ymateb i anghenion unigryw a diddordebau’r cymunedau ffermio yng Nghymru.”