Mae cofnodion tywydd yn dangos bod y tymheredd yn nhref Y Bala yng Ngwynedd wedi plymio i -6.2C neithiwr gyda disgwyl noson hyd yn oed yn fwy rhewllyd nos Fawrth.
Roedd cofnodion eraill yn dangos ei bod hi wedi teimlo mor oer â -5C yn Wrecsam, Crughywel, Y Gelli Gandryll, Y Trallwng a Thrawsfynydd.
Dyma noson oeraf yr hydref hyd yma, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae awyr glir heb gymylau yn golygu bod noson oer arall ar y ffordd, yn ol y rhagolygon tywydd.
Rhybuddiodd Heddlu Gogledd Cymru i yrwyr gymryd gofal arbennig ar y ffyrdd ac i gadw llygad am rew du.
Mae disgwyl iddi gyrraedd 4C yng Nghaerdydd yn ystod y dydd ond bydd yn gostwng i tua -6C eto mewn rhai ardaloedd yn y gogledd dros nos.