Arddangosfa gan Barc Cenedlaethol Eryri (llun gowlg360)
Eryri yw’r unig Barc Cenedlaethol o blith dwsin yng Nghymru a Lloegr lle mae prisiau tai’n rhatach nag yn yr ardaloedd o’i gwmpas.
Fe ddangosodd arolwg gan Fanc Lloyds fod trigolion yn y rhan fwya’ o barciau’n talu llawer rhagor am gartrefi – ond nid ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ond mae’r Banc wedi rhybuddio hefyd fod peryg i bobol leol fethu â fforddio byw a gweithio yn y ddau Barc arall yng Nghymru, yn Sir Benfro a Bannau Brycheiniog.
Y ffigurau
Ym Mharch Cenedlaethol Eryri, mae tai ar gyfartaledd yn costio £5,787 yn llai na thai yn yr ardaloedd cyfagos – yn hollol groes i’r patrwm cyffredinol.
- Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae pobol yn talu bron £40,000 yn fwy na’u cymdogion.
- Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae’r prisiau fwy na £70,000 yn uwch.
- Yn y New Forest yn ne Lloegr y mae’r gwahaniaeth mwya’ – mwy na £286,000.
Mae’r gwahaniaeth yn parhau hefyd wrth gymharu prisiau gydag enillion teuluoedd lleol – mae pris tŷ 6.5 gwaith yn fwy nag enillion blynyddol yn Eryri, ond tros 15 gwaith yn fwy yn y New Forest.
Rhybudd
Roedd Banc Lloyds wedi edrych ar 12 Parc Cenedlaethol, gan ddweud bod pobol yn fodlon talu rhagor am ansawdd bywyd gwell a harddwch.
Ond roedden nhw’n rhybuddio hefyd fod peryg i bobol leol fethu â fforddio byw a gweithio yn y Parciau.
Doedden nhw ddim yn cynnig esboniad am brisiau cymharol ratach Parc Cenedlaethol Eryri.