Nathan Gill (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ym Môn wedi bod yn trafod Brexit gydag aelod blaenllaw o UKIP yng Nghymru.

Er ei fod yn Aelod Cynulliad Annibynnol, mae Nathan Gill yn parhau yn Aelod UKIP yn Senedd Ewrop.

Un o bryderon pennaf yr amaethwyr fu’n ei gyfarfod yw gallu sicrhau cyllid ar gyfer y diwydiant ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn sôn am y cyfarfod, dywedodd Heidi Williams o Undeb Amaethwyr Cymru ar Ynys Môn: “Mi bwysleisiwyd bod angen cynllunio Brexit yn fanwl gywir a bod angen i amaethyddiaeth Gymreig fod ar frig agenda Llywodraeth Cymru.

“Does dim amheuaeth bod ffermwyr Cymru angen yr un lefel o gymorth ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ag y maen nhw yn ei dderbyn ar hyn o bryd, yn enwedig os ydym am sicrhau tegwch i bawb.”