Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau i gefnogi ac ariannu brwydr llwyth y Sioux yn Dakota yn erbyn codi pibell olew.
Byddai’r bibell gwerth $3.8 biliwn yn sicrhau gwerth 500,000 casgen o olew bob dydd i bedair talaith, a’r olew’n teithio ar hyd 1,200 milltir o bibellau.
Mae ymgyrchwyr Standing Rock Sioux wedi bod yn brwydro’n gyfreithiol ers dwy flynedd i atal y datblygwyr Energy Transfer Partners.
Mae’r ymgyrch yn cael ei hariannu gan nifer o fanciau rhyngwladol, ac mae’n nodi bod man claddu cysegredig yn cael ei niweidio.
Mae’r ymgyrchwyr yn gofidio y byddai arllwysiad yn llygru eu cyflenwad dŵr sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yfed, pysgota a dyfrhau.
‘Bygythiad’
Dywedodd swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith, Tomos Jones mewn datganiad: “Mae’r bibell yn fygythiad i’r amgylchedd yn fyd-eang gan y byddai’n hybu defnydd ffracio ac olew, ond hefyd yn destun pryder i’r Sioux yn lleol oherwydd y peryg y gallai olew llygru eu dŵr.
“Byddai olew’n gollwng o’r biben yn fygythiad i fodolaeth y genedl, ei thraddodiadau, iaith a diwylliant.
“Rydyn ni fel mudiad yn cefnogi pobloedd frodorol ymhob man sy’n gwarchod y ddaear a’u hetifeddiaeth ieithyddol yn erbyn grymoedd cyfalafol. Felly, byddwn ni’n annog ein cefnogwyr i gyfrannu’n ariannol at gronfa’r Sioux.”
Y cynnig
Dywed y cynnig sydd wedi cael ei basio gan y Gymdeithas: “Mae’r Gymdeithas yn datgan cefnogaeth i genedl y Sioux o Standing Rock, Dakota, sy’n gwrthwynebu pibell olew fyddai’n croesi eu tiroedd ac yn peryglu eu dŵr yfed.
“Byddai olew’n gollwng o’r bibell yn fygythiad i fodolaeth y genedl, ei thraddodiadau, iaith a diwylliant.
“Yn yr un modd mae’r Gymdeithas yn cefnogi pobloedd frodorol ymhob man sy’n gwarchod y ddaear a’u hetifeddiaeth ieithyddol yn erbyn grymoedd cyfalafol.”