Crwban môr Olive ridley (llun o Wikipedia)
Mae crwban môr trofannol prin wedi cael ei ddarganfod wedi iddo golli ei ffordd a chyrraedd arfordir Ynys Môn.

Daethpwyd o hyd i’r creadur, sydd wedi cael yr enw ‘Menai’ erbyn hyn, gan aelod o’r cyhoedd ar draeth Tan-Y-Foel ddydd Sadwrn.

Fe gafodd ei achub gan swyddogion o Sw Môr Môn a’i gludo i gael triniaeth brys gan lawfeddyg.

Dywedodd swyddogion bod y crwban môr mewn cyflwr difrifol ond ei bod yn ymateb yn dda i’r driniaeth.

Nid yw gweithwyr wedi medru pennu ei rywogaeth eto, ond credir ei bod unai yn grwban Olive ridley neu Kemps ridley – dau fath sy’n anodd gwahaniaethu rhyngddynt ond yn brin iawn.