Tylluan fawr
Mae ymchwiliad wedi’i lansio ar ôl i dylluan fawr Ewropeaidd, neu dylluan eryraidd (eagle owl), gael ei darganfod gan aelod o’r cyhoedd yn Aberdâr, Cwm Cynon.

Dywedodd swyddog o’r RSPCA bod gan yr aderyn ddolen ar ei goes, ond nad yw wedi cael ei gofrestru. Credir mai anifail anwes ydyw felly mae swyddogion yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i’w berchennog.

Mae’n anarferol i weld tylluan fawr yng Nghrymu, yn ol Gemma Cooper o’r RSPCA, ond mae nifer fechan wedi paru yng ngwledydd Prydain.

“Roedd yn bendant yn annisgwyl i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd iddo, fel un o’r tylluanod mwyaf o ran maint, dwi’n tybio ei fod yn dipyn o sioc”.