Mae modd i brosiectau mewn cymunedau gwledig ennill grant hyd at £350,000 o dan raglen newydd sy’n cael ei lansio heddiw.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, sy’n rhoi £13.5 miliwn i gynnal y rhaglen, mae prydferthwch cefn gwlad Cymru yn medru cuddio trafferthion economaidd dyrys.

 

Yn sgil hynny, mae’r Gronfa yn gwahodd grwpiau i helpu taclo tlodi ym Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Sir Fynwy, mewn cymunedau sydd â phoblogaeth o 10,000 neu lai.

‘Gwella lles’

Mae grantiau rhwng £10,000 a £350,000 ar gael ac mae’n rhaid i’r gwaith greu buddion cymunedol gan wneud ymdrech i “wella lles, codi dyheadau, gwella’r sgiliau sydd ar gael yn y gymuned neu helpu pobl i ymdopi gydag amgylchiadau anodd”.

Gallai hyn gynnwys pethau fel cyflogaeth ac incwm, trafnidiaeth a mynediad i wasanaethau, band eang gwael ac allgau digidol, tai a thlodi tanwydd a’r galw am wasanaethau lles a chyngor.

‘Cuddio anghenion dyrys’

Dywedodd Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: “Mae prydferthwch ardaloedd gwledig yng Nghymru’n aml yn cuddio anghenion dyrys, felly rydym yn buddsoddi £13.5 miliwn i helpu mynd i’r afael â’r rhain.

“Rydym eisiau i gymunedau yn y naw ardal achub ar y cyfle hwn i greu atebion i fynd i’r afael â thlodi gwledig. Trwy wneud hyn, rydym eisiau grymuso pobl a chymunedau i beri i bethau gwych ddigwydd.

“Ac mae’n rhaid diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bod yr arian hwn ar gael i wneud gwir wahaniaeth i  bobl yng Nghymru.”