Mochyn daear
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn parhau i wrthod y rhaglen difa moch daear sy’n cael ei chynnal yn Lloegr lle mae ffermwyr yn rhydd i saethu moch daear sydd wedi’u heintio a’r diciâu, ac iach, eu hunain.

Ond dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, eu bod am ymgynghori ar gynlluniau a allai olygu eu bod yn cael eu dal mewn cewyll a bod y rhai sydd wedi’u heintio yn cael eu lladd mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio’n sylweddol gan yr afiechyd.

Bu Lesley Griffiths heddiw yn cyhoeddi ymateb rhanbarthol newydd i gael gwared ar TB gwartheg yng Nghymru fel rhan o raglen newydd Llywodraeth Cymru.

O dan y rhaglen wedi’i hadfywio, fe fyddai ardaloedd TB Isel, TB Canolradd a TB Uchel yn cael eu sefydlu ar draws Cymru ar sail nifer yr achosion o TB gwartheg.  Bydd pob ardal yn cael ei ffordd arbennig ei hun o ddelio â TB, gan ddibynnu ar yr amodau a’r risgiau yn yr ardal honno.

Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y mesurau ar gyfer diogelu Ardaloedd TB Isel a lleihau’r achosion o’r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel.

Bydd mesurau newydd eraill yn cryfhau’r mesurau rheoli gwartheg. O dan gynlluniau’r rhaglen, bydd cynlluniau gweithredu penodol yn cael eu llunio ar y cyd â ffermwyr, milfeddygon a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar gyfer buchesi sydd â TB cronig er mwyn clirio’r haint.

Ymgynghori

Dywedodd Lesley Griffiths y byddai’r Llywodraeth yn ystyried nifer o opsiynau eraill, gan gynnwys dysgu o beilot yng Ngogledd Iwerddon lle cafodd moch daear eu dal mewn cewyll a lladd y rhai heintiedig.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn hefyd am farn am:

  • Cyflwyno Cynllun Prynu Doeth gorfodol i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ffeithiau ynghylch iechyd y gwartheg y maen nhw am eu prynu;
  • Gosod cosbau ar yr iawndal sy’n cael ei dalu ar gyfer gwartheg sy’n cael eu symud o fewn daliad aml-safle sydd o dan gyfyngiadau;
  • Gostwng y cap ar iawndal TB i £5,000.  Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermwyr ond bydd yn arbed rhyw £300,000 y flwyddyn.

‘Dysgu gwersi’

 

Wrth annerch y Senedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig:

“Mae ein rhaglen bresennol ar gyfer dileu TB yng Nghymru yn dod i ben eleni, felly dyma’r amser i bwyso a mesur, ystyried ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried adfywio’n ffordd o wneud pethau.

“Ers inni gyflwyno’r rhaglen ddileu yn 2012, rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion newydd o TB gwartheg mewn buchesi yng Nghymru ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB i lawr 19%.

“Rwy’n awyddus i adeiladu ar ein llwyddiant a phrysuro’r gwelliannau.  Dyna pam rwyf am wella mesurau ar sail tystiolaeth. Rwy’n credu y bydd y Rhaglen Ddileu adfywiedig hon yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i allu parhau i gyrchu at y nod o Gymru ddi-TB.”

Brechlyn

Wrth gyfeirio at gyflenwadau’r brechlyn moch daear, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fonitro’r sefyllfa ond na fyddai’r brechlyn BadgerBCG ar gael yn 2017.  Mae brechlynnau eraill yn dal i fod yn ddewis sy’n cael ei ystyried.

Daeth y prosiect o frechu moch daear i ben ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.