Fe fydd cig oen Cymru yn un o’r 7,000 o fathau o fwydydd gwahanol fydd yn cael eu harddangos mewn sioe ym Mharis, Ffrainc, yr wythnos nesa’.

Bydd sioe fasnach SIAL yn llwyfan i gwmnïau o fwy na 100 o wledydd dros bum niwrnod a bydd yn denu pobol o’r bob cornel o’r byd.

Yn y digwyddiad sy’n para’ wythnos (Hydref 16-20), bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn ceisio meithrin cysylltiadau busnes a datblygu cysylltiadau gyda chwsmeriaid newydd mewn marchnadoedd dros y byd.

Meddai Cadeirydd HCC, Dai Davies: “Mae marchnadoedd allforio yn hollbwysig i sector cig coch Cymru; mae tua 35% o’r cig dafad ac 13% o’r cig eidion sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn cael ei allforio.

“Mae SIAL yn gyfle perffaith i ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Mae’n chwarae rôl ganolog wrth ddylanwadu ar weithgaredd allforio yn dilyn y cysylltiadau cychwynnol sy’n cael eu creu yn y digwyddiad.”