Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai Brexit olygu ergyd ddwbwl i’r diwydiannau cig eidion a llaeth yng Nghymru.

Yn ôl Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y blaid dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas, fe allai effaith gyfun colli cyllid tuag at y cynllun i ddileu TB mewn gwartheg, a dim gwarant y bydd cig eidion Prydeinig yn cydymffurfio â safonau’r Undeb Ewropeaidd, fod yn drychinebus i’r sectorau llaeth a chig eidion.

Mae 60% o’r arian ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen i ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn dod o’r Undeb Ewropeaidd. Ond does dim gwarant, wedi i’r Deyrnas Unedig dynnu allan o’r Undeb, y bydd y safon Cymreig yn dal i gael ei gydnabod, ac y gallai hyn niweidio gwerthiant i Ewrop.

“Mae’r llywodraeth Lafur wedi methu â mynd i’r afael â phroblem y diciâu yng Nghymru,” meddai Simon Thomas.

“Er bod rhaglen o ddileu’r diciâu mewn gwartheg ar gael, parhau yn uchel wnaeth enghreifftiau o wartheg wedi eu heintio â’r diciâu yn y gorllewin, ac y maent yn cynyddu mewn ardaloedd newydd yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae Cymru ar hyn o bryd yn rhan o’r Farchnad Sengl, ac y mae ein cynllun i ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn seiliedig ar reoliadau’r Undeb Ewropeaidd ac wedi ei gymeradwyo gan yr Undeb.

“Fodd bynnag, mae peryg y bydd Brexit yn gwneud drwg i’n henw da, a gallai hyn niweidio gwerthiant,” meddai Simon Thomas wedyn.

“Os bydd cyfraddau’r diciâu mewn gwartheg yn codi, gallem wynebu sefyllfa lle mae gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwrthod mewnforio cig eidion o wledydd Prydain, fel a ddigwyddodd yn ystod yr argyfwng BSE.”