Mae taith tractorau a gafodd ei threfnu gan Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion wedi codi £540 at ymchwil y galon.

Cafodd y daith 24 milltir ei chynnal ddydd Sul diwethaf, ac fe fydd yr arian yn mynd at Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Dechreuodd y daith, oedd yn cynnwys 27 o dractorau, yn Gwili Jones, Maesyfelin yn Llanbedr Pont Steffan, cyn mynd ymlaen i Gwmann, Llanddewi Brefi, Olmarch a Llanycrwys cyn gorffen yn Silian.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion, Mared Rand Jones: “Rwy’n hynod o hapus gyda’r swm a lwyddwyd i godi gyda’n taith tractorau gyntaf un – mi wnaeth pawb fwynhau’r daith, ac felly o hyn, fe allwn ni ddatblygu digwyddiad blwyddyn nesaf i fod hyd yn oed yn fwy!

“Roedd hi’n hyfryd gweld cynifer o bobol yn ymuno gyda ni yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon. Mae’n achos werth chweil a gobeithio ein bod wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o faint o broblem yw clefyd y galon ar draws Cymru a gwledydd Prydain yn gyffredinol.”