Coeden dderw (Llun: Yr Ymddiriedolaeth Coetir)
Mae coeden hynafol a fu’n dyst i ddyrchafiad Castell Dinefwr wedi cael ei chynnwys ar restr fer sy’n cystadlu am deitl ‘Coeden y Flwyddyn’.
Y cyhoedd fydd yn penderfynu ar enillydd y categori ac mae chwe choeden o Gymru ymhlith y dewis.
Mae arbenigwyr yn credu fod Derwen y Castell wedi bod yn sefyll ers tua 850 mlynedd, sef cyfnod teyrnasiad yr Arglwydd Rhys.
Y coed eraill sydd wedi dod i’r brig(yn) yw Derwen Brimmon (Y Drenewydd, Powys); Derwen Hwyl (Beddgelert, Gwynedd); Derwen Gregynog (Tregynon, Powys); Castanwydd per Bodnant (Gerddi Bodnant, Conwy) a Derwen Cwm yr Esgob (Carngafallt, Rhaeadr Gwy).
Dywedodd Beccy Speight, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Coetir: “Trwy ddathlu’r coed hyn ac atgoffa pobol o’u gwerth mi ydan ni’n gobeithio cefnogi’r rhai sy’n medru eu gwarchod i’w cynnal am flynyddoedd i ddod.”
Fe fydd enillydd y categori yn mynd yn ei flaen i gystadleuaeth ar draws Ewrop gyfan ac yn derbyn grant gwerth £1000 er mwyn ei warchod. Fe fydd pob coeden sy’n derbyn dros 1,000 pleidlais yn cael £500.