Y defaid trydan (Llun: Prifysgol Bangor)
Mae dwy ddafad lonydd iawn wedi’u gosod mewn cae sy’n berchen i Brifysgol Bangor – a hynny er mwyn mesur effaith coed a chloddiau a’r tywydd ar anifeiliaid fferm.
Gwaith y fyfyrwraig ymchwil, Pip Jones, o’r Coleg ar y Bryn ydi cofnodi tymheredd y modelau sy’n edrych yn debyg i ddefaid go iawn, tra mae’n symud y modelau trydan o gwmpas y caeau ar fferm ymchwil y coleg yn Abergwyngregyn.
Dywedodd Pip Jones: “Rydan ni’n edrych ar sut mae tywydd yn effeithio ar ddefaid… a dw i wedi synnu, mewn gwirionedd, ar rai o’r mesuriadau.
“Mae defaid yn defnyddio swm sylweddol o ynni er mwyn cadw’n gynnes; ac yn colli llawer o wres pan mae’n oer, yn enwedig pan mae yna wynt oer.
“Ar ddyddiau poeth, pan oedd y tywydd o amgylch 30 celsiws ar y safle astudio, rydan ni’n rhoi’r modelau hyn mewn haul uniongyrchol, ac yn cofnodi tymheredd y cnu ac mae’n darllen 60C, sydd yn hynod o boeth,” meddai Pip Jones wedyn.
“Dyma lle y gallai cysgod y coed fod yn cyfrannu, gan greu cysgod yn yr haf ac yn lleihau effeithiau gwynt-oeri yn y gaeaf.”
Llosgi mwy o egni i gadw’n gynnes
Dywedodd Dr Andy Smith, sy’n uwch ddarlithydd mewn Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Os yw’n oer iawn mae defaid yn llosgi mwy o egni i gadw’n gynnes ar gyfer goroesi ac mae angen mwy o fwyd. I’r gwrthwyneb, os yw’n rhy boeth, mae anifeiliaid yn tueddu i fwyta llai a cheisio cysgodi i gadw’n oer.”
Nod pen draw’r ymchwil yw cynhyrchu pecyn cymorth ymarferol i ffermwyr i ddangos iddynt lle fydd gorau i blannu ar gyfer lloches a chysgodi effeithiol.