Mae cyn is-lywydd ac aelod oes o Undeb Amaethwyr Cymru, Richard Ap Simon Jones, o Ysguboriau, Tywyn, Meirionnydd, wedi marw.

Roedd yn un o sefydlwyr Undeb Amaethwyr Cymru ym Meirionnydd a fynychodd y cyfarfod cyntaf un a bu’n is-lywydd rhwng 1976 ac 1980.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Undeb Amaethwyr Cymru ym Meirionnydd, Huw Jones, bod Richard Ap Simon Jones yn “ymgyrchydd brwd dros ffermio teuluol a chymunedau gwledig”.

Ymysg ei lwyddiannau fel is-lywydd yr undeb roedd cael Llywodraeth y DU i roi’r un gydnabyddiaeth i Undeb Amaethwyr Cymru ag oedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ei gael.

Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig ac mae buches Duon Cymreig fferm Ysguboriau yn un o’r hynaf yn y brid.

Dywedodd Huw Jones o Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae teyrngedau wedi bod yn llifo i mewn i swyddfa’r undeb yn  Sir Feirionnydd yn dilyn y newyddion.

“Roedd o heb os yn un o hoelion wyth ffermio ac roedd yn ymgyrchydd brwd dros ffermio teuluol a chymunedau gwledig.

“Roedd ganddo sgil unigryw wrth gyflwyno ei safbwyntiau ac roedd pawb yn ei barchu. Rydyn ni’n ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf at Mrs Jones a’r teulu i gyd yn Ysguboriau.”