Adfer yr hen gamlas (Llun: Cymdeithas Camlas Abertawe)
Mae’r gwaith o glirio’r gamlas hanesyddol yn Abertawe wedi cymryd cam ymlaen heddiw wrth wahodd un o’r peirianwyr gwreiddiol a fu wrthi’n ei chau i helpu i’w hadfer.

Ers 1958, mae darnau o’r gamlas 16 milltir rhwng Abertawe ac Abercraf ym Mhowys wedi ei hamddifadu, ei gwerthu neu ei llenwi.

Ond, mae Cymdeithas Camlas Abertawe, Glandŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru wedi bod yn ceisio ei hadfer ac fe wnaethant gysylltu â John Evans am gymorth.

John Evans ydy’r unig beiriannydd a fu ynghlwm â’r gwaith o lenwi’r gamlas yn 1973 sydd dal yn fyw.

“Mae John wedi rhoi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd y diwrnod y cafodd y loc ei gladdu,” meddai Martin Davies o Gymdeithas Camlas Abertawe.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd y Gymdeithas ac Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn gallu adfer y lociau a’r gamlas a gwobrwyo John am ei weithredoedd,” meddai wedyn.

Ychwanegodd Nick Worthington o Glandŵr Cymru, “mae cael help un o’r peirianwyr gwreiddiol yn gam mawr i geisio adfer rhannau o’r gamlas.”