Mochyn daear
Mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid wedi beirniadu adroddiadau bod cynllun difa moch daear am gael ei ymestyn yn Lloegr i bum ardal newydd.

Dywedodd David Bowles, pennaeth materion cyhoeddus yr RSPCA, nad oedd cynllun y Llywodraeth yn angenrheidiol.

Bwriad y cynllun yw atal y diciâu, neu TB, mewn gwartheg.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi gwrthod cadarnhau neu wrthod adroddiadau’r BBC bod y cynllun difa am gael ei ymestyn.

“Mae’r RSPCA yn credu bod gwell ffyrdd i fynd i’r afael a TB mewn gwartheg,” meddai David Bowles wrth raglen BBC Breakfast.

“Mae’n ddrytach i ddifa. Mae’n fwy creulon i ddifa. Nid yw’n datrys y broblem hyd yn oed os ydych chi’n ei wneud yn iawn.”

Mae’r BBC yn adrodd bod TB wedi ei ddarganfod yng ngwartheg y ffermwr, Tony Francis, ger Okehampton yn Nyfnaint, a’i fod wedi cytuno i fod yn rhan o un o’r ardaloedd newydd sy’n cynnal y cynllun difa er mwyn atal y clefyd rhag dychwelyd.

Strategaeth 25 mlynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Defra bod “gan Loegr y nifer uchaf o achosion o’r diciâu yn Ewrop a dyna pam ein bod yn gweithredu’n gadarn i gyflwyno ein strategaeth 25 mlynedd i waredu’r clefyd a diogelu dyfodol ein diwydiannau llaeth a chig eidion.

“Mae rheoli moch daear mewn ardaloedd lle mae TB ar ei anterth yn rhan o’n cynllun hirdymor, sydd hefyd yn cynnwys cryfhau profion ar wartheg a rheoli symudiadau, ynghyd a gwella bioddiogelwch ar ffermydd wrth fasnachu.”

Mae Gorllewin Swydd Gaerloyw a Gorllewin Gwlad yr Haf wedi bod yn difa moch daear ers pedair blynedd, ac fe ddechreuodd y cynllun yn Dorset bron i ddwy flynedd yn ôl.

Ym mis Medi 2015, dywedodd y gweinidog amaeth ar y pryd, George Eustice, wrth Dy’r Cyffredin y gallai’r cynllun difa gael ei ymestyn i rannau eraill o Loegr.

Yn ôl y BBC fe fydd moch daear hefyd yn cael eu difa yn ne Dyfnaint, gogledd Dyfnaint, gogledd Cernyw, gorllewin Dorset a De Swydd Henffordd ar ddechrau mis Medi.

Nid yw Defra wedi pennu dyddiad ar gyfer cyhoeddi canlyniadau ceisiadau ar gyfer trwyddedau i reoli moch daear.

‘Dylai’r Llywodraeth edrych tua Chymru’

Yng Nghymru fe fu cynllun i frechu moch daear ers pedair blynedd ond bu’n rhaid atal y prosiect hwnnw ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

Dywedodd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Moch Daear sy’n hyrwyddo cadwraeth, lles ac amddiffyn moch daear, bod angen i Lywodraeth y DU edrych tua’r gorllewin am wersi ar sut mae delio a’r diciâu mewn gwartheg.

Ychwanegodd Peter Martin bod Llywodraeth Cymru ac Iwerddon wedi gwyro oddi ar y llwybr o ddifa moch daear a bod hynny’n talu ar ei ganfed.

Meddai Peter Martin: “Dylai’r Llywodraeth edrych tua Chymru i weld sut maen nhw wedi lansio ymgyrch llawer mwy llwyddiannus yn erbyn y clefyd yn seiliedig ar brofion diciau mwy trylwyr, rheoli symudiad gwartheg yn llymach a mesurau bioddiogelwch.

“Mae achosion newydd o’r diciâu yng Nghymru wedi gostwng 14% yn y 12 mis diwethaf ac mae hyn i gyd wedi ei gyflawni heb ddifa moch daear.

“Ac fel mae Iwerddon hefyd yn bwriadu rhoi’r gorau i’w pholisi o ddifa moch daear o blaid brechu, mae’n hen bryd i Defra i wneud yr un peth.”