Mae RSPB Cymru wedi codi amheuon am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â gweithredu i wahardd saethu gwyddau talcenwyn ar draws Cymru.

Yn ôl yr elusen, mae gwyddau talcen-wyn yr Ynys Las o dan fygythiad difrifol o ddiflannu’n llwyr ac mae angen gwarchod yr ychydig rai sy’n dal i ddychwelyd i Gymru bob gaeaf.

“Siom aruthrol” oedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru’r wythnos hon na fyddai’n gweithredu gwaharddiad llwyr ar saethu gwyddau talcen-wyn ar draws Cymru, meddai llefayrdd.

Mae RSPB Cymru hefyd yn codi cwestiynau am y ffordd y gwnaeth yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC y penderfyniad yn groes i gyngor sefydliadau arbenigol.

Cymru – ar ei phen ei hun

“Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw ei bod hi wedi mynd yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru, corff statudol cadwraeth natur a rheolydd amgylcheddol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â barn nifer o sefydliadau cadwraeth Cymru a nifer fawr o unigolion eraill,” meddai Katie-jo Luxton, cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru.

“Pan fydd niferoedd rhywogaeth yn gostwng mor gyflym fel ei bod dan fygythiad o ddiflannu’n llwyr, fe fyddech chi’n meddwl mai’r peth lleiaf fedrai’r rheiny sydd mewn grym ei wneud yw cynnig amddiffyniad cyfreithiol i atal pobol rhag ei saethu.

“Cymru bellach yw’r unig wlad yn y byd lle mae teuluoedd o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn gaeafu yn rheolaidd, lle nad ydynt yn cael eu diogelu gan y gyfraith rhag cael eu saethu.”

Mewn peryg

Mae dau fath o wyddau talcenwyn yn dod i’r Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf ond y farn yw bod gwyddau talcenwyn yr Ynys Las mewn peryg mawr gyda’r boblogaeth fyd-eang yn is na 20,000.

Yn y 1990au hwyr, roedd mwy na 160 o adar yn dychwelyd i’w safle gaeafu rheolaidd ar aber Afon Dyfi. Mae’r ffigwr hwnnw bellach wedi gostwng i ddim ond 24 y llynedd.

“Mae ein Llywodraeth ar flaen y gad gyda’i geiriau teg am fyd natur, ond dydy’n nhw ddim yn cyflawni ei dyletswydd trwy gyflawni’r camau cadwraeth sydd eu hangen,”  meddai Katie-jo Luxton.

Ymateb y Llywodraeth

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadwraeth gwyddau talcenwen fel y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i fwynhau ymweliadau gaeaf yr aderyn eiconig hwn i Gymru,” meddai’ Llywodraeth mewn datganiad.

“Yn ddiweddar cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac nid oedd unrhyw  dystiolaeth i ddangos bod gwyddau talcenwen yn cael eu saethu yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Daeth Ysgrifennydd y Cabinet, felly, i’r casgliad bod y moratoriwm gwirfoddol drwy gydol y flwyddyn bresennol ar hyn o bryd yn gweithio’n effeithiol ac yn cael ei ddilyn gan glybiau adara yng Nghymru.

“Rydym yn credu maai’r ffordd orau o sicrhau cadwraeth gwyddau talcenwen yng Nghymru yw trwy ddau ddull. Yn gyntaf, trwy barhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys yr RSPB, i hyrwyddo’r moratoriwm gwirfoddol presennol.

“Yn ail, yr ydym yn ariannu ymchwil ychwanegol a fydd yn llywio penderfyniadau gwell ar sut mae rheoli’r gwyddau a’u cynefin.”