Buwch Holstein-Friesian (llun parth cyhoeddus)
Mae undeb ffermwyr wedi rhybuddio y gallai methiant i atal diciâu mewn gwartheg olygu methu â chael cytundebau i werthu i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

“Gallai lefelau TB mewn gwartheg ar hyn o bryd atal creu cytundebau masnachu ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan,” meddai Dr Hazel Wright, Prif Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

Ac maen nhw wedi galw eto am reoli’r clefyd mewn moch daear – gan ddweud mai difa’r anifeiliaid yw’r ateb gorau.

“Os na fyddwn ni’n newid ein polisi ar fywyd gwyllt, mae ein hallforion i’r Undeb Ewropeaidd mewn byd ar ôl Brexit, mewn peryg mawr,” meddai Hazel Wright.

Pwyso yn Sioe Sir Benfro

Fe fu swyddogion o’r undeb yn Sir Benfro yn rhoi pwysau ar yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Chefn Gwlad, Lesley Griffiths, yn ystod sioe’r sir.

Yno, mae ffermwyr wedi bod yn cadw at reolau caeth o ran symudiadau gwartheg ond, yn ôl yr undeb, heb weld fawr o newid o ran y clefyd ei hun.

Maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i ddilyn cyngor adroddiad a gawson nhw yn 2012 yn dweud bod rhaid rheoli’r diciâu yn y gwartheg a bywyd gwyllt fel ei gilydd – yn ôl yr adroddiad, roedd momentwm wedi ei golli pan ddaeth difa i bent.