Mae Llywydd NFU Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i waredu â’r diciâu mewn gwartheg.

Daw sylwadau Stephen James ar ddiwrnod cyntaf Sioe Sir Benfro yn Hwlffordd heddiw – ardal sydd wedi dioddef yn helaeth o achos y clefyd.

Mae’r ardal gyfagos wedi bod yn rhan o Ardal Driniaeth Ddwys Llywodraeth Cymru i frechu moch daear ers pedair blynedd.

Ond bu’n rhaid atal y prosiect hwnnw ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

“Mae llawer gormod o deuluoedd ffermio yn yr ardal hon yn parhau i frwydro o dan bwysau emosiynol ac ariannol difrifol a achosir gan TB,” meddai Stephen James.

2,652 o wartheg wedi’u difa yn Sir Benfro

Mae ffigurau’r Llywodraeth yn dangos cynnydd o 37% o flwyddyn i flwyddyn yn y nifer o anifeiliaid sy’n cael eu lladd yng Nghymru o ganlyniad i’r diciâu.

Er hyn, mae’r ffigurau hefyd yn amlygu gostyngiad o 17% yn nifer y buchesi newydd sydd o dan gyfyngiadau yng Nghymru yn y flwyddyn oedd yn terfynu ym mis Mai 2016.

Ond, o fewn y flwyddyn honno cafodd 2,652 o wartheg eu difa yn Sir Benfro yn unig – ac mae hynny’n gynnydd o 61% o gymharu â’r flwyddyn cynt.

‘Ystyried opsiynau’

Mewn ymateb i alwadau NFU Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn awyddus i ystyried opsiynau newydd ar gyfer cynllun i fynd i’r afael â’r diciâu yng Nghymru.

“Dros yr wythnosau nesaf, bydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried opsiynau wedi’u hadnewyddu ar gyfer cynllun TB yng Nghymru,” meddai.

“Fel rhan o hynny, bydd yn ystyried mater o fywyd gwyllt ochr yn ochr â gwartheg a mesurau bioddiogelwch.

“Mae’n glir o’r dystiolaeth epidemegol sydd wedi’i gyflwyno hyd yn hyn y dylem fod yn archwilio ymgais wedi’i dargedu’n well ar lefel fferm ac ardal,” meddai’r llefarydd.

‘Rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol’

Wrth gyfeirio at ffigurau gwartheg dywedodd y llefarydd, “mae’r duedd gynyddol yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu difa yn cael ei briodoli i’r nifer gynyddol o adweithyddion sy’n cael eu datgelu mewn achosion sefydledig, nid digwyddiadau newydd ydynt.

“Mae llawer o hyn yn ganlyniad i gynnydd yn y defnydd o’r prawf ‘gama interfferon’ i brofi am TB, sy’n brawf mwy sensitif ac yn cael ei ddefnyddio’n strategol yn gylchol ac yn gyson mewn achosion.

“Rydym yn parchu bod gwaredu â nifer fawr o anifeiliaid ar unrhyw adeg yn anodd i fusnesau fferm, ond mae hyn yn ein galluogi i gael gwared â’r haint yn fwy effeithiol a lleihau’r risg o’r clefyd i ledaenu.

“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gyflawni rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn.

Rydym yn bwriadu parhau i fynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint yn y ffordd fwyaf priodol i ymdrin â’r sefyllfa TB yng Nghymru,” meddai wedyn.