Simon Thomas AC
Ar ddiwrnod cyntaf gŵyl ddeuddydd Sioe Môn, mae pobol wedi bod yn dweud eu dweud am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ardaloedd gwledig Cymru, gan ystyried pa bolisïau newydd fyddai’n bosib.

Roedd y drafodaeth yn rhan o ymgynghoriad gan Blaid Cymru, yn cael ei lansio gan lefarydd y blaid ar Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad y gallai Llywodraeth Cymru “fabwysiadu agwedd ehangach tuag at gefnogi’r Gymru wledig” yn y dyfodol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Dweud eu dweud’

“Mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ffurf wahanol iawn i bolisïau amaethyddol ac amgylcheddol,” meddai Simon Thomas.

Dywedodd y gallai hyn gynnwys “cyllid ar gyfer seilwaith band eang a mecanwaith i gefnogi ffermwyr sydd yn cydnabod y gwerth maent yn dwyn i gynnal yr amgylchedd a’r dirwedd sydd mor werthfawr inni…

“Buaswn i’n annog pobl i ddweud eu dweud ar yr egwyddorion allai fod yn sail i system gyflawn i gefnogi amaeth Cymru a’r amgylchedd gwledig,” meddai wedyn.

Roedd y pynciau trafod ar y maes yn cynnwys rheolaethau’r UE ar hyn o bryd tros ddeddfwriaethau iechyd, hylendid, lles, clefydau, cludo a phlismona arbrofion gwyddonol.

A’r bwriad oedd clywed barn y cyhoedd am sut i ddelio â’r cyfrifoldebau hynny ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.