Abi Reader, gyda thlws Gwobr Ffermwr Benywaidd Cymru, Llun: NFU Cymru
Ffermwr llaeth o Wenfô, Caerdydd, sydd wedi ennill tlws Gwobr Ffermwr Benywaidd Cymru gan NFU Cymru eleni.

Derbyniodd Abi Reader y wobr o £500 a phowlen ffrwythau o wydr crisial Cymreig yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae’r wobr, sydd bellach yn ei 20fed flwyddyn, yn ceisio hyrwyddo’r cyfraniad y mae menywod yn ei wneud i’r diwydiant amaeth ac i godi proffil menywod mewn ffermio.

Enillodd Abi, sy’n bartner yn y fferm deuluol ynghyd â’i thad a’i hewythr, y wobr am reoli buches laeth y fferm yn ogystal â bod yn gyn-gadeirydd undeb ffermwyr NFU Cymru  yn Sir Forgannwg.

Mae hi hefyd wedi bod yn ymweld ag ysgolion i esbonio sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ac mae ganddi ddiddordeb mewn addysgu’r genhedlaeth nesaf o gwsmeriaid a dangos i blant bod ffermio yng Nghymru yn ddiwydiant sy’n werth ei gefnogi.

Brwdfrydedd ac angerdd

Dywedodd dirprwy lywydd NFU Cymru, John Davies, bod Abi Reader wedi dangos “brwdfrydedd mawr ac angerdd am y diwydiant”.

Meddai: “Mae Abi wedi gweithio’n ddiflino ar ac oddi ar y fferm ac mae hi wastad yn rhoi cant y cant ym mhopeth mae’n ei wneud.

“Mae hi wedi dangos ymrwymiad llwyr i’w fferm ac i’r gwaith mae hi’n ei wneud er mwyn y diwydiant. Mae Abi yn enghraifft ddisglair ac yn llwyr haeddu teitl Ffermwr Benywaidd Cymru’r Flwyddyn.”