Lesley Griffiths
Mae’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru mewn sefyllfa gref i fodloni’r heriau wedi Brexit – dyna fydd neges yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths pan fydd yn ymweld â’r Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw.

Dywedodd Lesley Griffiths fod penderfyniad y DU i adael yr UE wedi creu ansicrwydd ond ei bod am roi sicrwydd i gynhyrchwyr a buddsoddwyr  yng Nghymru y byddan nhw’n brwydro i sicrhau eu bod yn parhau i gael mynediad di-dor i’r Farchnad Sengl.

“Mae sector bwyd a diod Cymru yn un o’n llwyddiannau economaidd, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r diwydiant i adeiladu ar ei lwyddiannau,” meddai.

‘Allforion yn werth dros £264m’

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y diwydiant bwyd a diod wedi gweld trosiant o £6.1bn yn 2015, ac yn ôl Llywodraeth Cymru mae ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged o 30% o gynnydd mewn trosiant i £7bn erbyn 2020.

Yn 2015, roedd allforion bwyd a diod Cymru werth dros £264 miliwn, a 90% ohono’n cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Prydain pwysigrwydd sicrhau bod busnesau a buddsoddwyr  yng Nghymru yn parhau i gael mynediad di-dor i’r Farchnad Sengl.

‘Ansicrwydd’

Dywedodd Lesley Griffiths: “Mae penderfyniad y DU i adael yr UE wedi creu ansicrwydd ac rwyf am ddefnyddio fy amser yn y Sioe Frenhinol i roi sicrwydd i gynhyrchwyr y byddwn yn ymladd i’r DU drafod telerau i sicrhau mynediad i  500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl.

“Fodd bynnag, fel gwlad, rydym yn cynnal busnes ledled y byd ac mae’n rhaid inni yn awr anelu i wneud mwy.  Rydym yn parhau i gefnogi ein cwmnïau bwyd a diod i sicrhau busnes tramor drwy ein Rhaglen Cymorth Allforio a’n Rhaglen Digwyddiadau ym Mhrydain a Thramor, y ddwy raglen wedi sicrhau busnes o dros  £6.5miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf a gwerth £12miliwn o gyfleoedd wedi eu cofnodi.

“Mae’n rhaid inni adeiladu ar hyn a llunio cysylltiadau newydd gyda gweddill y byd.  Mae’n amlwg o’r cynnyrch rhagorol yn y Sioe Frenhinol bod gennym gynnyrch gwych ac unigryw.  Mae’n rhaid inni fod yn ddewr ac yn hyderus wrth ei werthu i weddill y byd.”