Lesley Griffiths
Cyn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Materion Gwledig i drafod Brexit, mae arweinydd undeb amaethwyr wedi dweud ei fod yn “gobeithio” am atebion.

Bydd Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), yn un o gynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol yng Nghymru fydd yn cyfarfod â Carwyn Jones a Lesley Griffiths.

“Mae’n bwysig rŵan ein bod yn rhoi amaeth a bwyd ar dop yr agenda,” meddai.

“Rydan ni fel undeb wedi galw am gyfarfod i ddechrau’r deialog er mwyn gwybod lle rydan ni’n mynd. Dwi’n gobeithio bydd ganddyn nhw atebion.”

Dywedodd y bydd yn ceisio cael atebion ynghylch masnachu a chymorthdaliadau gan ddweud mai’r “peth pwysicaf yw sefydlu y bydd cyllideb foddhaol i’r diwydiant amaeth.”

Cyfarfod â chadeiryddion siroedd

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn cyfarfod â’i gadeiryddion ymhob sir er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen fel undeb.

“Mae amaeth a chefn gwlad yn bwysig i gadw’r diwylliant, iaith a’r holl dreftadaeth sy’n perthyn i ni fel Cymry,” meddai Glyn Roberts.

“Mae amaeth yn golygu llawer iawn mwy ‘na dim ond amaeth, mae o’n cynhyrchu bwyd, mae’n cynhyrchu pobol a hefyd mae o’n cadw’r gwead cefn gwlad yn fyw.

Statws cig Cymru

O ran statws arbennig cig oen a chig eidion Cymru (sef PGI y Comisiwn Ewropeaidd), dywedodd Glyn Roberts fod y sefyllfa “bach yn annelwig” ar hyn o bryd os bydd y statws hwnnw’n dal i fod.

“Yn gyfreithiol, mae o wedi cael ei ddiddymu, ond dwi’n meddwl ei fod o’n bosib ail-sefydlu’r statws yna, mewn ystyr bod ‘na rhywbeth cyfatebol i beth sydd ‘na yn dod o Ewrop.”

‘Cam cyntaf taith hir ac ansicr’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:  “Nid oes amheuaeth bod penderfyniad Prydain i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i sectorau’r amgylchedd ac amaeth, yn enwedig o gofio’r lefelau arwyddocaol o arian a help y mae’r UE yn eu rhoi iddyn nhw.  Yn wir, o holl feysydd gwaith Llywodraeth Cymru, yr amgylchedd a materion gwledig sydd â’r cysylltiadau cryfaf â’r UE.

“Dyma pam, ers cyhoeddi canlyniadau’r refferendwm, dwi wedi bod yn frwd dros gwrdd â’r sectorau hyn.

“Heddiw yw cam cyntaf taith hir ac ansicr, a galla i ddim addo bod gen i’r atebion i gyd.  Yr hyn y galla i ei addo serch hynny yw y bydda i’n gweithio’n ddiflino i geisio addewidion gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled yn ariannol am fod y DU yn gadael yr UE.

“Gwrando fydd ein nod heddiw.  Nid oes unrhyw bwnc yn waharddedig a bydda i’n sicrhau bod y safbwyntiau a godir heddiw yn cael eu gwyntyllu wrth imi negodi â Llywodraeth y DU ynghylch amseriad ac amodau ymadawiad y DU â’r UE”.