Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod nifer y gwartheg sydd wedi gorfod cael eu cyfyngu oherwydd y diciâu (TB) ar eu lefel isaf ers deng mlynedd.

Mae’r ffigwr chwarterol yn dangos bod 94.6% o wartheg ar ffermydd Cymru heb gael TB yn ystod chwarter cyntaf 2016.

O’i gymharu â thair blynedd yn ôl, mae bellach 200 yn llai o fuchesi sydd wedi gorfod cael eu cyfyngu oherwydd y diciâu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ond ar ddechrau’r wythnos, fe gododd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, bryderon bod nifer y gwartheg sydd wedi’u lladd oherwydd y clefyd  wedi “codi 37% ers y llynedd”.

Dywedodd fod angen mynd i’r afael â’r diciâu mewn bywyd gwyllt, gan rybuddio nad oes modd cael gwared â’r afiechyd mewn gwartheg “tra bo’r epidemig ymysg bywyd gwyllt yn cael ei anwybyddu.”

Yn ôl Glyn Roberts, does “dim wedi newid” er bod 5,192 o foch daear wedi’u brechu ers 2011 a £3.7 miliwn wedi’i wario.

Roedd yn feirniadol hefyd o’r ymgais i waredu â’r diciâu mewn ardal arbennig yng ngogledd Sir Benfro dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda’r cynllun yn cael ei atal dros dro ym mis Rhagfyr oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

‘Newidiadau i ddulliau o reoli gwartheg’

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet ar Faterion Gwledig, mae cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd am fod newidiadau wedi cael eu gwneud i’r dulliau o reoli gwartheg.

Dywedodd Lesley Griffiths, ei bod yn croesawu’r data diweddaraf, sy’n “cadarnhau’r ffaith ein bod yn gweld peth cynnydd o ran sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod, ac mae nifer yr achosion o TB yn parhau i leihau.”

“Wrth gwrs, mae sefyllfa TB ar draws Cymru yn un cymhleth,” meddai.

“Yn aml, mae pobl yn credu bod y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu difa yn golygu bod y clefyd ar gynnydd.

“Mewn gwirionedd, gwelwyd cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu difa oherwydd y newidiadau a wnaed i’r dulliau o reoli gwartheg a’r mesurau i gadw golwg ar y sefyllfa. Mae hynny wedi gwella’r modd rydym yn canfod ac yn dileu’r clefyd ymhlith ein buchesi.”

 

‘Ystyried yr holl opsiynau’

Dywedodd hefyd fod y Llywodraeth yn defnyddio technegau fel profi gwartheg, bioddiogelwch llym, rheoli symudiadau a gwella’r drefn o reoli achosion o TB.

“Nod y dull hwn yw mynd i’r afael â phob ffynhonnell o’r clefyd ac yn amlwg mae’n cael effaith ar y sefyllfa.

“Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2016 14% yn llai na’r hyn oeddynt yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2015.

“Byddaf yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa ar draws Cymru ac rydw i wedi ymrwymo i gael fy arwain gan wyddoniaeth wrth fynd ati i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer symud ymlaen.”