Mae cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i sefydlu’r cwrs milfeddygol cyntaf yng Nghymru gam yn nes heddiw.

Mae hynny ar ôl i Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths, gyhoeddi y bydd y brifysgol a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn cydweithio i ddatblygu’r rhaglen.

Bydd y memorandwm rhwng y brifysgol a’r coleg milfeddygol yn Llundain yn edrych ar y posibilrwydd o greu cwrs fydd wedi’i deilwra ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

Daeth cyhoeddiad Lesley Griffiths yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y brifysgol.

Gallai’r cytundeb olygu y bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu hyfforddiant meddygol ac ymchwil milfeddygol yng Nghymru.

Bydd y cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar ffermio da byw.

“Ardderchog i ffermwyr Cymru”

“Mae addysg filfeddygol i Gymru wedi bod yn destun trafod ers tro, ac mae’r uchelgais hon bellach yn cael ei gwireddu,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae’r fenter gydweithredol hon rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn newyddion ardderchog i ffermwyr Cymru ac i’r proffesiwn milfeddygol.

“Bydd yn darparu canolbwynt o arbenigedd milfeddygol y mae angen dirfawr amdano, yng nghalon ein prifysgol hynaf. Mae’r prosiect hwn hefyd yn bodloni llawer o’n hamcanion lles, gan gyfrannu’n benodol at greu Cymru iach, gadarn a llewyrchus.”

Yn ôl un Dirprwy Is-Ganghellor y brifysgol dros Ymchwil, mae’r datblygiad yn un “cyffrous”.

“Rydym yn rhannu uchelgais y proffesiwn milfeddygol, Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ffermio i sicrhau a gwella iechyd anifeiliaid yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Chris Thomas.

“Mae cael datblygu’r weledigaeth hon mewn partneriaeth â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn wirioneddol gyffrous.”

Mae disgwyl i’r ddau sefydliad ddylunio rhaglen y cwrs ac mae’r ddau goleg yn bwriadu cyflwyno eu hadroddiad i’w cyrff llywodraethu erbyn mis Awst 2017.

Croeso gan Blaid Cymru

Yn ôl Plaid Cymru, a oedd wedi  son am ei nod o greu ysgol filfeddygol i Gymru yn ei maniffesto, mae’r cam hwn yn un bwysig i’r wlad.

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n hir am ysgol filfeddygol i Gymru, a dwi’n falch bod yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth gam yn nes,” meddai Simon Thomas, llefarydd y blaid ar faterion gwledig.

“Mae sefydlu ysgol filfeddygol yng Nghymru yn bwysig i ateb galwadau penodol diwydiant ffermio da byw Cymru, ac i fynd i’r afael â’r prinder milfeddygon sy’n arbenigo yn y maes.”