Mae cynghorwyr yng ngogledd Swydd Efrog wedi cymeradwyo’r cynllun ffracio cyntaf yn y DU ers pum mlynedd.

Mae’r penderfyniad dadleuol wedi cael ei feirniadu gan y rhai sy’n gwrthwynebu’r dull o dyllu am nwy siâl.

Roedd pwyllgor cynllunio’r cyngor sir wedi cymeradwyo cais gan gwmni o’r DU, Third Energy, i ffracio mewn safle ger pentref Kirby Misperton, rhwng Malton a Pickering.

Dywedodd y rhai sy’n cefnogi’r cynllun ei fod yn “fuddugoliaeth i bragmatiaeth.”

Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu ffracio wedi galw am ymgyrch genedlaethol i wrthod y cynllun a rhai tebyg rhag cael eu cymeradwyo yng ngweddill y DU.