Traeth Llangrannog, Llun: Cyngor Ceredigion
Mae pum traeth newydd yng Nghymru wedi cael eu gwobrwyo â Baner Las am eu hansawdd mewn seremoni heddiw yn Abertawe.

47 traeth sydd bellach â statws Baner Las, gyda 26 o draethau eraill ledled Cymru yn cael Gwobr Arfordir Glas a 92 yn cael Gwobr Glan Môr.

Traethau Tywyn yng Ngwynedd, Poppit Sands yn Sir Benfro, Bae Whitmore a Marina Penarth ym Mro Morgannwg a Marina Porthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael eu hychwanegu i’r rhestr eleni.

Mae’r Faner Las yn wobr ryngwladol, sy’n cael ei chynnal mewn 49 o wledydd ledled y byd.

Yng Nghymru, Cadwch Gymru’n Daclus sy’n rheoli’r gwobrau, sy’n cael ei rhoi i draethau a marinâu ag ansawdd dŵr uchel, rheolaeth ac addysg ar yr amgylchedd, systemau diogelwch a gwasanaethau.

“Pwysig” i Gymru

“Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae’r Faner Las wedi cael effaith trawsnewidiol ar ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, diogelwch a chyfleusterau yn ein traethau a’n marinâu,” meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.

“Mae’r Faner Las wedi dod yn label-eco o’r radd flaenaf, y mae miliynau o bobol ledled y byd yn ymddiried ynddo.”

Mae’r gwobrau yma yn “bwysig iawn” i Gymru, meddai, gan eu bod yn “hybu’r economi lleol a’r diwydiant twristiaeth”, a welodd gynnydd o 7% o ymwelwyr yn mynd i arfordir Cymru yn 2015.

Y siroedd sydd â’r mwyaf

Y sir sydd â’r mwyaf o draethau â statws y Faner Las yw Sir Benfro, sydd â 12. Yng Ngwynedd mae ‘na wyth, chwech yn Ynys Môn a chwech hefyd yng Ngheredigion.

“Mae traethau Ceredigion gyda’r gorau ym Mhrydain ac yn cael eu mwynhau gan filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn,” meddai’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion dros Ddatblygu Economaidd a Thwristiaeth.

“Mae ymweliad â lan y môr yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r profiad gwyliau ac ‘rwy’n hynod falch bod Ceredigion wedi ennill cynifer o wobrau unwaith eto eleni.”