Yr Athro Carl Jones, enillydd y Wobr Indianapolis 2016, Llun: PA
Mae biolegwr o Gymru, sydd wedi achub naw rhywogaeth rhag diflannu’n gyfan gwbl, wedi ennill un o’r gwobrau amgylcheddol uchaf eu bri yn y byd.

Llwyddodd yr Athro Carl Jones i gipio Gwobr Indianapolis 2016, sy’n cael ei hadnabod fel y “wobr Nobel” ym maes gwarchod bywyd gwyllt.

Cafodd yr Athro Carl Jones, 61 oed, sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn diogelu adar gwyllt, y wobr am bron i 40 mlynedd o waith ym Mawrisiws.

‘Cydnabyddiaeth’ 

Dywedodd wrth golwg360 ei bod hi’n “wych” cael cydnabyddiaeth, “nid yn unig i’r gwaith dwi’n ei wneud, ond hefyd i’r rhywogaethau sy’n rhan o fy ngwaith.”

Yn y 1970au, pan aeth i ynys Mawrisiws am y tro cyntaf, oedd yn arfer bod yn gartref i’r Dodo, dim ond pedwar cudyll coch Mawrisiws oedd ar ôl yn y gwyllt, gan ei wneud yr aderyn mwyaf prin yn y byd.

Degawd yn ddiweddarach, roedd y nifer wedi cynyddu i dros 300 o adar.

Mae Carl Jones hefyd wedi chwarae rôl bwysig yn achub rhywogaethau prin rhag diflannu, fel y golomen binc, y paracît eco a’r telor Rodriges.

Diddordeb ers yn blentyn yng Nghymru

“Mae’r Wobr Indianapolis yn draddodiadol wedi mynd i bobol sy’n gweithio ar rywogaethau o broffil uchel iawn fel eliffantod, gorilaod, pandas neu eirth gwynion, ond dwi’n gweithio ar anifeiliaid llai adnabyddus,  rhai dim ond ychydig iawn o bobol sydd wedi clywed amdanyn nhw,” meddai.

Dywedodd ei fod â diddordeb penodol mewn adar ers y bu’n blentyn yn ardal San Clêr, Sir Gaerfyrddin, a’i fod yn arfer cadw adar yn yr ardd gefn.

“Mae adar o hyd wedi bod yn rhyfeddod i mi,” meddai, “pan glywais am drafferthion y cudyll coch Mawrisiws, roeddwn am roi rhan o fy mywyd tuag at (achub y rhywogaeth)”.

‘Heriol’ 

Yn ôl Carl Jones, sydd yn parhau i weithio yn Mawrisiws, er ei fod bellach yn byw yn Llanwnda, Powys, mae ei waith yn gallu bod yn “heriol” ar adegau ond nad yw achub rhywogaethau “hanner mor gymhleth ag y mae rhai pobol yn ei gredu”.

“Mae’n fater o fynd yno, darganfod pam eu bod nhw mewn perygl a chywiro’r problemau hynny,” meddai.

“Yr hyn mae angen yw ymroddiad dros gyfnod hir, does neb yn gallu achub rhywogaeth mewn pump neu ddeg mlynedd, mae’n cymryd degawdau.

“Ers i fi ddechrau ar fy ngyrfa, mae nifer y rhywogaethau sydd mewn perygl wedi cynyddu, mae niferoedd unigolion y rhan fwyaf o rywogaethau yn disgyn ledled y byd, ac i’w achub, mae’n rhaid i ni gael mwy o reoli ymarferol.

“Dyw hi ddim yn ddigonol bellach i ddiogelu rhannau gwyllt (o’r byd) yn unig, gallai hynny weithio mewn rhannau o Brydain, lle mae gennym ni gadwraethau natur ond i lawer o rywogaethau sydd mewn perygl, mae’n rhaid i chi eu hachub.”

Dyfodol disglair?

Ond er hyn, mae’n mynnu bod gan fywyd gwyllt y byd “dyfodol eithaf disglair wrth i ni ddysgu mwy a mwy am y byd”.

“Rwy’n optimist, dwi’n meddwl bod llawer allwn ni wneud (i achub bywyd gwyllt y byd). Er bod ‘na heriau anferthol, dwi’n meddwl ein bod ni’n dechrau mynd i’r afael â nhw.”

Seremoni yn Llundain  

Bydd y gwarchodwr bywyd gwyllt yn derbyn ei wobr mewn seremoni heno gydag Ymddiriedolaeth Gadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell yn Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain.

Fel yr enillydd, bydd Carl Jones, sy’n brif wyddonydd gydag Ymddiriedolaeth Gadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell a chyfarwyddwr gwyddonol Sefydliad Bywyd Gwyllt Mawrisiws yn cael gwobr o 250,000 o ddoleri (£172,400) a’r Fedal Lili.