Protest Ffos y Fran (Llun o wefan United Valleys Action Group Merthyr)
Mae cannoedd o ymgyrchwyr amgylcheddol wedi atal gwaith ar safle glo brig ym Merthyr Tudful heddiw mewn protest yn erbyn cloddio glo brig yng Nghymru a’r tu hwnt.

Bwriad y grŵp Reclaim the Power yw rhoi terfyn ar gloddio glo brig er mwyn ceisio atal newid hinsawdd, ac mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio ar safle pwll glo Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful ers dydd Sadwrn.

Maen nhw wedi codi gwersyll dros dro ar y safle dros benwythnos gŵyl y banc, ac mae disgwyl i’r brotest gyrraedd ei huchafbwynt heddiw.

Yn ôl y grŵp Reclaim the Power, maen nhw’n honni fod safle Ffos-y-fran “wedi creithio’r dirwedd a’r gymuned yn ne Cymru.”

Mae’r grŵp hefyd yn gwrthwynebu cynlluniau’r cwmni sy’n berchen ar safle Ffos-y-fran – sef Miller Argent – rhag datblygu pwll glo arall gerllaw, sef Nant Llesg yn ardal Caerffili.

Cafodd y cais hwnnw ei wrthod gan Gyngor Caerffili’r llynedd, ond mae Miller Argent yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yn ôl eu gwefan, “fel gyda Ffos-y-fran, mae’r safle arfaethedig yn Nant Llesg wedi cael ei ddefnyddio gan genedlaethau o’r blaen ar gyfer glo.

“Mae hyn yn golygu bod nifer o beryglon iechyd a diogelwch posib ar y safle yn atal neu’n cyfyngu mynediad y cyhoedd. Bydd y bygythiadau hyn yn cael eu gwaredu drwy’r broses mwyngloddio rydym ni’n ei gynnig ac yn adfer y tir, a thros gyfnod o amser byddwn yn creu amgylchedd gwell na sydd ar hyn o bryd.”

400 yn ymgyrchu

Yn ôl Reclaim the Power, mae tua 400 o ymgyrchwyr wedi ymgasglu ar y safle’r bore yma.

Dywedodd Hannah Smith, un o’r ymgyrchwyr, “dy’n ni’n gweithredu ar y cyd â’r gymuned leol sydd wedi brwydro yn erbyn Ffos-y-fran am bron i ddegawd, a nawr maen nhw’n wynebu bygythiad newydd o gloddfa arall drws nesaf.

“Mae Cymru’n haeddu trawsnewidiad oddi wrth lo, gan greu cyfleoedd gwaith cynaliadwy mewn economi sy’n parchu ein planed a’i thrigolion, nawr ac ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd fod y brotest heddiw, deuddydd cyn etholiadau’r Cynulliad, yn arwydd eu bod am roi terfyn ar fwyngloddio glo yn wyneb yr argyfwng hinsawdd bresennol.

Dywed Miller Argent bod y safle’n cefnogi 230 o swyddi lleol ac yn helpu i wneud biliau trydan yn rhatach.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Miller Argent i’r brotest sy’n cael ei chynnal heddiw.