Eira ym mis Ebrill, Llun: Gwenan Davies, o Fferm Cwmcoedog, Mydroilyn ger Aberaeron
A hithau’n ddiwedd mis Ebrill, mae ’na rai wedi’u synnu heddiw wrth weld eira’n disgyn mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Yn ôl un ffermwr o ardal Tregaron, Ifan Jones, mae gweld eira’r adeg hon o’r flwyddyn yn “annaturiol iawn”.

Er hynny, dywedodd y ffermwr ei fod yn cofio eira ym mis Mai rhai blynyddoedd yn ôl.

“Tua 1979 oedd hi, ac roedd hi’n flwyddyn wael ofnadwy – hen eira o hyd ac o hyd. Fi’n cofio o’n i’n mynd â defed i’r mynydd gyda ’Nhad bryd hynny, a fi’n cofio oedd rhaid inni adael hi achos ’nath hi gawod bert o eira a gwynnu popeth.”

Yr eira wedi gadael ei effaith

Dywedodd fod yr eira a ddisgynnodd y bore yma o gylch ei fferm yn Nhregaron wedi clirio bellach – ond ei fod yn dal ei afael ar y mynyddoedd ac ar y ffordd fynydd i gyfeiriad Abergwesyn.

Dywedodd fod y tywydd oer diweddar wedi gadael ei effaith ar amaethu, gyda’r diffyg tyfiant yn golygu bod “llai o borfa nawr nag oedd fis yn ôl.”

“Mae ’na altrad mawr yn y tymhorau, ac mae’n rhyfedd o ystyried adeg y flwyddyn.”
Mae'n debyg fod yna ddefaid ac wyn rhywle yn y llun yma... (llun: Fflur Griffiths)

Bu llawer ohonoch yn tynnu lluniau o’r tywydd annisgwyl hefyd, gan gynnwys Fflur Griffiths o Fethania yng Ngheredigion.
Roedd yr olygfa yn edrych fel rhywbeth allan o gerdyn Nadolig yn hytrach na chanol gwanwyn mewn rhai rhannau o'r wlad (llun: Fflur Griffiths)