Cig oen
Mae archfarchnad Waitrose wedi ymateb i’r feirniadaeth bod ei chig oen, dan stamp cwmni a gafodd ei sefydlu gan y Tywysog Charles, yn dod o Seland Newydd.
Dywedodd Waitrose wrth golwg360 nad yw hi o hyd yn bosib cael cig oen organig o Brydain drwy gydol y flwyddyn.
Ac er bod yr archfarchnad wedi ystyried y ‘potensial’ o ymestyn y tymor mae’n gwerthu cig yn y wlad hon, dywedodd nad yw hyn yn bosib ymhob achos.
Daeth golwg360 i ddeall bod cwmni Duchy Originals, a gafodd ei sefydlu gan y Tywysog Charles yn 1990 er mwyn hybu amaethyddiaeth Brydeinig, yn gwerthu a hybu cig oen o ochr draw’r byd.
Dywedodd swyddfa’r Tywysog yn Clarence House, nad oedden nhw am wneud sylw ar y mater, a hynny gan nad oes gan y Tywysog “ddim i’w wneud â’r nwyddau bwyd”, medden nhw.
Er hynny, mae’r cwmni yn parhau i fod yn bartneriaeth rhwng swyddfa’r Tywysog a Waitrose.
‘Ansawdd’ ddim o hyd yn bosib ym Mhrydain
“Ar y cyfan, rydym yn ceisio cael cymaint o’n cynnyrch organig o’r DU â phosib, ond mewn rhai achosion, dydy hi ddim yn bosib cael y nifer a’r ansawdd sydd eu hangen arnom i gyflenwi ein 300+ o siopau,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
“Dyma’r achos gyda chig oen organig y tu allan i’r tymor Prydeinig, felly rydym yn mynd dramor am ran o’r hyn sydd ei angen arnom, yn hytrach na pheidio â chynnig dewis organig i’n cwsmeriaid.”
Polisi cig oen ‘tymhorol’
“Rydym yn gweithredu polisi “tymhorol” ar gyfer ein cig oen, sy’n gig confensiynol ac organig, gan sicrhau y gall ein cwsmeriaid brynu cig o’r ansawdd orau y gall ein ffermwyr gynnig drwy’r flwyddyn,” meddai’r llefarydd.
“Yn ystod y tymor Prydeinig, rydym ond yn gwerthu cig oen o’r DU – yn bennaf o Gymru a De-orllewin Lloegr.
“Y tu allan i’r tymor Prydeinig, mae cig oen confensiynol (sydd ddim yn organig) o Brydain ar gael drwy’r flwyddyn ar ein cownteri gan nifer fechan o ffermwyr sy’n arbenigo mewn cynhyrchu cig trwy’r flwyddyn,” meddai’r llefarydd.
Undeb Amaethwyr Cymru yn ‘hynod siomedig’
“Mae’r Tywysog Charles yn llysgennad pwysig dros y diwydiant amaethyddol ac mae wedi bod yn allweddol er mwyn annog y cyhoedd i gefnogi ffermwyr Prydain,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wrth golwg360.
“Mae’n hynod o siomedig i ni bod y brand ‘Duchy Waitrose’ yn gwerthu cig oen Seland Newydd yn nhymor cig oen gwanwyn Cymru.
“Mae’n anghrediniol y byddai’r Tywysog yn rhoi ei enw ar gig sydd wedi teithio o ochor arall y byd a ninnau yn cynhyrchu cig oen o safon uchel yma reit ar stepen drws,” meddai Glyn Roberts wedyn.