Cyngor Powys yn dweud bod angen codi rhagor o dai i ateb y galw
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant gwerth £2 miliwn i godi tai fforddiadwy ym Mhowys.

Bydd 29 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu codi yng Nghrughywel gan gwmni Melin, a bydd y gwaith sy’n costio £1.5 miliwn yn dechrau fis nesaf.

Bydd y gweddill yn mynd at godi saith o gartrefi yn Y Drenewydd.