Bydd llyfr gan Coral a Paul Jones yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau
Mae mam April Jones, y ferch fach bump oed o Fachynlleth a gafodd ei llofruddio yn 2012, wedi dweud ei bod hi’n awyddus i gyfarfod â llofrudd ei merch, Mark Bridger yn y carchar.

Hyd yma, mae Coral Jones wedi dweud nad yw hi am ei weld, ond bellach, dywedodd hi wrth y Sunday People ei bod hi am geisio cael atebion gan Bridger, fydd yn treulio gweddill ei fywyd yng ngharchar Wakefield yn Swydd Efrog.

Ceisio’r gwirionedd

Mewn cyfweliad ecsgliwsif, dywedodd Coral Jones ei bod hi wedi ystyried cyflawni hunanladdiad yn y blynyddoedd ers i’w merch gael ei llofruddio wedi iddi gael ei chipio oddi ar ystad Bryn y Gog ym Machynlleth.

Dywedodd Coral, sydd wedi dioddef o effaithiau anhwylder ôl-drawma: “Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i fi ei wneud.

“Rwy’n gwybod y bydd hi’n anodd iawn. Bydda i am ei niweidio fe. Rwy eisoes yn cael ffantasi o arllwys asid drosto fe.

“Bydda i am wneud iddo fe ddioddef, a gwneud iddo fe yr hyn a wnaeth e i fy merch fach ond bydd rhaid i fi atal fy hun oherwydd bydd dangos pa mor grac ydw i yn gwneud i fi deimlo’n wael wedyn.”

Ond dywedodd hi ei bod hi am gael clywed y gwir am yr hyn a wnaeth Bridger i April, er bod Bridger wedi bod yn anfodlon rhoi manylion hyd yma.

“Rwy am gwybod y gwir, waeth pa mor erchyll yw e. Fi yw mam April ac mae’n ddyletswydd arna i i ffeindio allan [beth ddigwyddodd].”

Trawma

Dywed arbenigwyr bod Coral Jones wedi dioddef yn waeth o sgil effeithiau trawma na rhai milwyr sydd wedi bod ar faes y gad.

Ychwanegodd Coral Jones: “Rwy’n cyfadde ’mod i wedi bod eisiau cyflawni hunanladdiad. Pa fam allai ymdopi â’r meddyliau sydd gyda fi y tu fewn i ’mhen?”

Mae llyfr gan Coral a Paul Jones yn cael ei gyhoeddi’r wythnos hon.