Mae ffigyrau newydd yn dangos bod 27% yn fwy o wartheg wedi cael eu difa yn 2015 o’i gymharu a’r flwyddyn flaenorol oherwydd y diciâu.

Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos bod 8,103 o wartheg wedi cael eu difa yn 2015, o ganlyniad i achosion o’r diciâu mewn gwartheg. Cafodd 6,378 eu difa yn 2014.

Ond mae’r nifer o achosion mewn heidiau newydd yn 2015 wedi yn aros yn gymharol sefydlog o’i gymharu â ffigurau 2014.

Angen strategaeth

Er hynny, dywedodd NFU Cymru fod y ffigyrau’n amlygu’r angen i Lywodraeth nesaf Cymru i roi strategaeth dileu TB gynhwysfawr ar waith.

Dywedodd Stephen James, Llywydd NFU Cymru: “Ers 2008, mae dros 68,000 o wartheg yng Nghymru wedi cael eu difa oherwydd y clefyd hwn. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod ffermwyr Cymru wedi cadw at rheolaethau symud gwartheg a profi llym.

“Er ein bod yn cydnabod bod y darlun TB mewn gwartheg yn fwy cymhleth na dim ond edrych ar un ystadegyn, dylai’r ffigurau hyn wneud i gwleidyddion o bob plaid yng Nghymru gymryd sylw o’r effaith mae’r diciau mewn gwartheg yn parhau i’w gael ar ffermwyr yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth newydd, yn dilyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai, fod yn barod i weithio gyda’r diwydiant ar gynllun gweithredu cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael â’r clefyd hwn mewn gwartheg a phoblogaethau bywyd gwyllt.”

Atal cynllun brechu

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun brechu moch daear yn erbyn TB yng ngogledd Penfro yn cael ei atal dros dro oherwydd y prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.

Yna, ym mis Ionawr, dywedodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd y byddai’n ehangu cosbau a gynlluniwyd i leihau iawndal y diciau ar gyfer perchnogion gwartheg sy’n euog o “ymddygiad peryglus”.