Fe allai ffermwyr cig eidion yng Nghymru fod yn elwa o £4,000 y flwyddyn yn fwy petai eu gwartheg yn rhoi genedigaeth i loi yn amlach.

Yn ôl Hybu Cig Cymru mae heffrod yng Nghymru yn lloia am y tro cyntaf pan maen nhw’n 35 mis oed, sef 11 mis yn hwyrach na’r hynny sydd yn cael ei argymell gan arbenigwyr.

Mae’n debyg mai pryderon fod heffrod ddim yn ddigon mawr ac aeddfed yw’r rheswm pam bod oedi cyn iddyn nhw gael eu lloi cyntaf.

Ond fe allai lloia yn 24 mis oed olygu bod pob buwch yn rhoi genedigaeth i ddau lo ychwanegol yn ystod eu hoes, ac felly incwm ychwanegol o £162 y flwyddyn i bob buwch.

Lloia cynharach

Ar gyfartaledd mae buchesau yng Nghymru â 25 o wartheg, ac fe fyddai hynny’n golygu £4,000 yn fwy’r flwyddyn i ffermwyr.

“Mae lloia cynharach o gymorth yn hyn o beth, ond mae’n bwysig ystyried sut mae’r fuwch yn cael ei rheoli ar ôl lloia, ac mae cael y pwysau neu gyflwr corff gorau posibl yn hanfodol,” meddai Gwawr Parry, Swyddog Datblygu’r Diwydiant yn Hybu Cig Cymru.

“Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill oherwydd mae’r manteision o loia yn gynharach yn cynnwys cynnydd yn nifer y lloi gydol oes, budd ariannol sylweddol yn gyffredinol ac, ar yr un pryd, mynd i’r afael â materion newid yn yr hinsawdd drwy well effeithlonrwydd ar y fferm, a thrwy hynny cael y cynnyrch gorau fesul hectar.”