Ffos Noddun
Mae cais i godi gorsaf ynni dŵr yn ardal Betws y Coed wedi cael ei wrthod gan un o bwyllgorau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cafodd y cais i godi gorsaf ynni dŵr 5MW ei gyflwyno gan RWE Innogy, ond fe gafodd ei wrthod o chwe phleidlais i bump gan y pwyllgor cynllunio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod fod trafodaeth fywiog wedi’i chynnal, gyda John Harold o Gymdeithas Eryri yn siarad yn erbyn y cynllun, a Dafydd Wyn Finch o Bentrefoelas yn siarad o’i blaid.

Roedd nifer o wrthwynebiadau wedi cael eu cyflwyno ar sail pryderon y byddai’r prosiect yn cael effaith negyddol ar ardal Ffos Noddun.

Pryderon 

Roedd 900 o lythyron unigol wedi cael eu cyflwyno yn amlinellu pryderon unigolion am y cynllun, ac fe gafodd deiseb yn cynnwys 6,000 o lofnodion yn erbyn y cynllun ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Fe ddaeth sylwadau am effaith y prosiect ar bysgodfeydd, gweithgareddau awyr agored a thwristiaeth yr ardal.

Dim ond 37 o lythyron a gafodd eu cyflwyno o blaid y prosiect.

Wrth ddod i gasgliad, dywedodd y pwyllgor bod rhaid cymeradwyo rhai agweddau ar y prosiect ond bod gormod o bryderon i allu ei dderbyn.

Nododd y pwyllgor y canlynol fel rhesymau dros wrthod y cais:

  • Nid yw’r ymgeisydd wedi pwysleisio ddigon effaith weledol bosibl y ffrwd isaf / all-lif. Mae hyn yn bwysig o ystyried ei effaith niweidiol bosibl pan fydd rhywun yn ystyried ei faint a’i leoliad.
  • Mae’r cyflwyniad yn methu â chyflwyno deunydd darluniadol o ansawdd yn ddigonol a ddisgwylir fel arfer o ystyried argaeledd technoleg ddigidol.
  • Ni chyflwynwyd digon o fanylion i ddangos sut y bydd y traciau mynediad dros dro a pharhaol yn cael eu harwynebu i helpu i’w hymgynefino yn y dirwedd o’u hamgylch.
  • Nid oes cynlluniau tirlun dangosol i esbonio sut y byddai plannu rhagor a modelu tir sensitif o amgylch y prif strwythurau yn helpu i’w hymgynefino yn eu hamgylchedd gwledig ymhen amser. Cynigir rhoi to bywlys ar y tŷ tyrbin hefyd ond ni chyflwynwyd unrhyw wybodaeth bellach.
  • Ni chyflwynwyd digon o wybodaeth am y pwll cored. Dylid bod wedi cynnwys asesiad o effaith ar y dirwedd ac effaith weledol y pwll hwn (yn cynnwys colli coed torlannol oherwydd bod yr ardal dan ddŵr yn barhaol ac effeithiau dŵr yn cael ei dynnu i lawr) yn yr asesiad.
  • Nid oes asesiad o effeithiau’r cysylltiad trydanol arfaethedig a dim ond y mymryn lleiaf o wybodaeth am ei lwybr a’r manylion adeiladu.
  •  Nid oes asesiad o effeithiau datgomisiynu.