Mae Eryri'n adnabyddus fel ardal o harddwch naturiol
Mae’r olygfa o Eryri sy’n cael ei gweld o frig yr Wyddfa wedi cael ei dewis yn un o’r golygfeydd gorau ar ynysoedd Prydain.

Yn ôl pleidlais gan gylchgrawn The Countryman, dyma’r ail olygfa orau yn y DU, a lwyddodd i ennill 16% o’r bleidlais.

Yn bumed ar y rhestr oedd yr olygfa o Fae Sain Ffraid, ger pentref Marloes yn Sir Benfro.

Yr olygfa a ddaeth yn gyntaf oedd o Fynyddoedd Mourne o ymyl traeth Tyrella yn Swydd Down, sy’n cael eu gweld yn y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones.

Roedd y ddau arall a oedd yn y pump uchaf yn cynnwys yr ‘Old Man of Storr’ ar Ynys Hir a llyn Wastwater yn Ardal y Llynnoedd.