Mae trydydd ymchwiliad cyhoeddus wedi dechrau’r wythnos hon i ystyried cynllun dadleuol i godi fferm wynt ym Mynydd y Gwair, Felindre ger Abertawe.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, fod Arolygwr Cynllunio Annibynnol wedi ei gomisiynu i asesu cynlluniau cwmni RWE Innogy UK i godi 16  o dyrbinau  gwynt ar y safle.

Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried a ddylai’r cwmni gael yr hawl i ddadgofrestru tir comin y safle.

“Dyw e ddim wedi ei gymeradwyo eto oherwydd bod tipyn o wrthwynebiad wedi bod,” esboniodd y llefarydd.

Fe ddywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynglŷn â datblygiad y cynllun yn dilyn canlyniadau adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus.

‘Cais o’r newydd’

Mae’r prosiect, fydd yn costio tua £52 miliwn, wedi bod yn bwnc llosg ac wedi ei wrthod droeon.

Yn wreiddiol, fe gafodd gefnogaeth yn 2013, ond yn dilyn adroddiad gan arolygwr cynllunio ym mis Mehefin 2015, fe rwystrodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans y datblygiad rhag parhau.

Yna, ym mis Medi 2015, fe ailgyflwynodd RWE Innogy UK gais o’r newydd gan dalu sylw i gyfreithiau’r tir comin.

Mae’r cwmni’n dadlau y gallai datblygiad Mynydd y Gwair greu hyd at 104 o swyddi yn ystod pob blwyddyn o’r gwaith adeiladu. Byddai cynnal y safle wedyn yn creu 19 o swyddi eraill ac yn cyfrannu £1.2m y flwyddyn at economi Cymru, yn ôl RWE Innogy UK.