Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y gallai rhai busnesau o fewn y sector amaethyddol wynebu “anawsterau ariannol difrifol” os oes rhagor o oedi cyn iddyn nhw dderbyn taliadau.

Mewn llythyr at y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, pwysleisiodd yr undeb eu pryderon am yr oedi cyn rhyddhau taliadau fel rhan o’r Cynllun Taliad Sengl i ffermwyr.

Mae tua 80% o ffermwyr wedi derbyn taliadau rhannol bellach – ond mae tua 3,400 o fusnesau yn dal i aros am eu taliadau.

“Mae’r busnesau hynny wedi bod yn amyneddgar tu hwnt,” meddai Glyn Roberts, Llywydd UAC.

“[Ond] wrth inni ddynesu at ganol mis Chwefror … mae nifer yn wynebu pwysau ariannol, gyda chegau angen eu bwydo, biliau angen eu talu a benthyciadau angen eu gwasanaethu.”

‘Cyflymu’r broses’

Yn ei lythyr, cyfeiriodd Glyn Roberts at rai achosion lle mae ffermwyr wedi gorfod troi at eu banciau i ofyn am estyniadau i’w gorddrafftiau er mwyn parhau â gwaith dyddiol y fferm.

Ond, mae rhai banciau wedi gwrthod cynnig estyniadau o’r fath oherwydd ansicrwydd ynglŷn â phryd bydd y ffermwyr yn derbyn eu taliadau.

“Dros y 12 mis diwethaf rydym ni wedi lobïo Llywodraeth Cymru yn gyson i wneud popeth o fewn eu gallu i gyflymu’r broses o’r taliadau gan rybuddio y byddai oedi eleni yn gadael  effeithiau eang ar ffermwyr a’r economi wledig yn ehangach,” ychwanegodd Llywydd UAC.

“Rydym yn eich annog i wneud popeth o fewn eich gallu i gyflymu’r broses o daliadau’r cynllun taliad sengl a Glastir er mwyn lleddfu’r pwysau nid yn unig sy’n effeithio ar ffermwyr, ond ar nifer o fusnesau eraill sy’n ddibynnol ar y diwydiant.”