Dr Tracy Norris
Mae diddordeb ysol mewn adar ysglyfaethus yng Nghymru wedi newid bywyd meddyg teulu o Swydd Hampshire.

Mae Tracy Norris wedi gwirioni cymaint ar Weilch y Pysgod, nes ei bod wedi symud cartref a’i swydd er mwyn bod yn agos at y warchodfa natur yng Nghors Dyfi ger Machynlleth.

“Fe ddes i i’w gweld am y tro cynta’ ar ddiwedd tymor 2013,” meddai. “Ro’n i mor hoff o’r ardal fel y penderfynais ddod yn ôl y flwyddyn ganlynol yn fy ngharafan.”

Pan ddaeth yn ôl holodd am wirfoddoli gyda phrosiect yr arsyllfa ac roedd wedi’i bachu.

“Dw i wastad wedi hoffi adar ysglyfaethus, a gweilch yn enwedig. Pan glywais eu bod yn nythu yma roedd rhaid imi ymweld ac roedd eu gweld yn eu holl ysblander yn gwireddu breuddwyd. Pan gerddais i mewn i’r Arsyllfa 360 am y tro cyntaf daeth â dagrau i’m llygaid. Mae’n lle mor arbennig.”

400 milltir 

Er mai hwn oedd y tro cyntaf i Tracy Norris wirfoddoli penderfynodd nad oedd y daith 400-milltir yna ac yn ôl o’i chartref yn Swydd Hampshire yn bosib mwyach. Yn y lle cyntaf prynodd garafán sefydlog ar safle gwersylla gerllaw fel y gallai aros yno drwy’r tymor ac yna penderfynodd ei bod eisiau bod yn rhan o’r prosiect drwy’r flwyddyn. Dim ond un peth oedd i’w wneud.

“Ar ôl dod yn rhan o waith ymgysylltu’r prosiect penderfynais yr hoffwn gyfrannu fwy ac allan o’r tymor os yn bosib,” meddai. “Penderfynais ymddiswyddo o fy mhartneriaeth yn Swydd Hampshire a symud yma unwaith ac am byth.”

Erbyn hyn, mae wedi trefnu ei bod yn cael dyddiau i ffwrdd o’r feddygfa er mwyn bod ar gael i helpu yn y Warchodfa sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn.

“Mae bod yn rhan o’r prosiect wedi gwella fy nghydbwysedd gwaith a bywyd yn fawr iawn,” meddai Tracy Norris wedyn. “Dw i wrth fy modd yn siarad am yr adar a’r anifeiliaid yn y warchodfa, y blodau a’r pryfed, ac adnabod adar hefyd.

“Dw i’n teimlo mor ddedwydd pan ydw i yn y prosiect, a gan fod gen i deulu yn ne Cymru, dw i’n teimlo fy mod i wedi dod adref.”