Gwenllian Davies Llun: Jeff Connell, Sir Gar
Mae person hynaf Cymru, a’r seithfed person hynaf yn y DU, wedi marw yn 110 oed.

Fe fu farw Gwenllian Davies ddydd Sul diwethaf, Ionawr 17,  yng nghartref gofal Awel Tywi, Llandeilo, sir Gaerfyrddin.

“Roedd hi’n dawel iawn dros y Nadolig, a phan ddaeth yr alwad doedd e ddim yn annisgwyl,” meddai Eleri Davies, ei nith yng nghyfraith.

“Mae gennym fynyddoedd o atgofion am ddynes hynod a gafodd ei geni ar yr un diwrnod a hedfanodd yr awyren gyntaf i’r awyr,” esboniodd.

Digwyddiadau 1905

Ganwyd Gwenllian Davies ar 4 Hydref 1905. Y diwrnod hwnnw, esgynnodd awyren y brodyr Wright i’r awyr am y tro cyntaf, a dyna’r flwyddyn y cyhoeddodd Albert Einstein ei bapurau am theori perthynoledd.

Wrth ddathlu ei phen-blwydd yn 110 y llynedd, fe gasglodd y teulu bethau cofiadwy o’r flwyddyn honno er mwyn creu arddangosfa.

Doedd gan Gwenllian Davies a’i gŵr Arthur Davies, a fu farw yn 1970, ddim plant. Roedden nhw’n byw ar fferm fynydd Llety Philip ger Pontardawe.

Gallai Gwenllian Davies gofio gweld dinistr Abertawe o’i fferm fynydd yn dilyn y blitz yn 1941.

‘Canrif o newidiadau mawr’

Cyn symud i gartref Awel Tywi yn 2011, roedd hi’n byw yn Llandeilo ac yn mwynhau garddio.

“Roedd hi’n ddynes hynod o alluog a oedd wedi gweithio’n galed trwy ei bywyd,” meddai Eleri Davies.

Fe ychwanegodd fod “staff Awel Tywi wedi bod yn wych wrth ofalu amdani. Maen nhw’r un mor drist â ni am golli Gwenllian.”

Fe ddywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett a oedd yn ymweld yn gyson â hi: “Roeddwn i’n drist i glywed am y golled. Roedd Gwenllian yn ddoeth, yn darllen yn eang ac yn berson ffraeth a oedd wedi arwain bywyd llawn ac anhygoel yn rhychwantu canrif o newidiadau mawr.”